Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:43, 19 Ionawr 2022

Diolch am yr ymateb yna. Byddai, mi fyddai fo'n gam mawr, ond yn gam pwysig. A'r holl bwynt o'i roi o mewn deddfwriaeth fyddai sicrhau bod yr egwyddor ddim yn gallu cael ei hanwybyddu; byddai'n rhaid gweithredu.

Yng Nghymru, mae yna gamau addawol iawn wedi cael eu cymryd—yr egwyddor o bartneriaid gofal yng nghynllun gweithredu Cymru ar gyfer dementia, er enghraifft—ond mae yna agendor mawr rhwng beth sy'n cael ei ddisgrifio yn y cynllun hwnnw a realiti. Mae yna leoliadau iechyd a gofal lle dydy'r canllawiau ddim yn cael eu dilyn. Fel y cyfeiriodd y Gweinidog, mae yna broblemau ychwanegol efo'r anhawster mewn cael yswiriant ar gyfer materion yn gysylltiedig â COVID mewn cartrefi gofal erbyn hyn, a dwi'n ategu cais Fforwm Gofal Cymru am gynllun indemnity tebyg i un yr NHS ar gyfer y sector gofal. Ond â ninnau rŵan ym mlwyddyn olaf y cynllun dementia presennol—a dyma'r mater allweddol—sut mae'r Llywodraeth am drio sicrhau bod geiriau cadarnhaol yn troi yn realiti?