Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 19 Ionawr 2022.
Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad i'r ddadl hon ar ddau beth hanfodol sydd eu hangen arnom i gyd er mwyn gallu byw: bwyd a dŵr—nid moethusrwydd, nid pethau braf i'w cael, ond hanfodion. Soniodd Mark Isherwood am helpu pobl i gael gwaith, ond yma yng Nghymru heddiw, y realiti yw na all pobl sy'n gweithio fforddio'r hanfodion hyn.
Yn ystod dadl Plaid Cymru ar 8 Rhagfyr ar dlodi bwyd, rhannodd llawer ohonom ystadegau arswydus o'n hetholaethau a'n rhanbarthau ar y defnydd o fanciau bwyd a pham nad yw'n dderbyniol fod ansicrwydd a chwant bwyd yn realiti o ddydd i ddydd i gynifer o'r bobl a gynrychiolwn. Yn anffodus, yn hytrach na gwella, mae'r sefyllfa'n parhau i waethygu, a dyna pam rwy'n cefnogi'r cynnig heddiw fel bod cynllun gweithredu costau byw brys yn cael ei ddatblygu a'i weithredu cyn gynted â phosibl.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, cynyddodd prisiau bwyd cyfartalog tua 28 y cant yn 2021 i'r lefel uchaf mewn 10 mlynedd. Achoswyd hyn yn rhannol gan brisiau ynni uwch sydd wedi effeithio ar gost rhai gwrteithiau, a chostau trafnidiaeth cynyddol, ac mae'r ddau wedi effeithio'n negyddol ar gadwyni cyflenwi bwyd. Mae mwy na hanner yr aelwydydd yng Nghymru wedi wynebu costau bwyd uwch ac fel y clywsom, mae chwech o bob 10 wedi gweld cost eu cyfleustodau'n codi, megis eu biliau dŵr ac ynni.
Y llynedd, roedd bron i 10 y cant o aelwydydd Cymru eisoes yn profi lefelau isel o ddiogelwch bwyd, ac roedd un rhan o bump o bobl Cymru yn poeni y deuai eu bwyd i ben cyn y gallent fforddio prynu mwy. Roedd y ffigur hwn hyd yn oed yn uwch ar gyfer teuluoedd â phlant. Roedd traean o'r bobl a oedd yn ennill llai na'r cyflog byw yn gorfod mynd heb brydau bwyd, fel y dangosodd Delyth Jewell, a dywedodd bron i 60 y cant o'r bobl sy'n byw ar aelwydydd â'r incwm isaf yng Nghymru eu bod wedi newid eu harferion bwyta am resymau ariannol. Gan fod disgwyl i brisiau ynni godi ymhellach, rydym yn debygol o weld mwy o gynnydd ym mhrisiau bwyd, yn ogystal â phobl yn gorfod dewis rhwng angenrheidiau sylfaenol, megis gwresogi, bwyd a chynhyrchion hylendid, gan gynnwys cynhyrchion mislif—unwaith eto, nid moethusrwydd. Dyma bethau rydym yn ddigon ffodus i allu eu cymryd yn ganiataol, er efallai nad oedd hynny'n wir i rai ohonom yn y gorffennol.
Nid yn unig y mae pobl yng Nghymru'n byw mewn tlodi bwyd, yn ei chael hi'n anodd prynu bwyd ac yn wynebu mwy o bwysau ariannol wrth geisio cynnal deiet cytbwys, ond mae tlodi dŵr yn dod yn broblem gynyddol yng Nghymru, gyda biliau dŵr yn cyfrannu'n sylweddol at broblemau dyled pobl. Ar ôl ôl-ddyledion y dreth gyngor, ôl-ddyledion bil dŵr oedd yr ail fath mwyaf cyffredin o ddyled roedd cleientiaid a gysylltodd â StepChange yn ymrafael â hi. Amcangyfrifir bod 175,000 o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi dŵr, ond 35 y cant yn unig o'r aelwydydd hynny sy'n cael y cymorth sydd ei angen arnynt o dan y trefniadau presennol. Mae ymchwil gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr wedi dangos bod aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi dŵr, gyda chartrefi'n gorfod torri'n ôl ar hanfodion eraill er mwyn talu eu bil dŵr. Ac mae cymorth i rai mewn tlodi dŵr yn dameidiog, gydag aelwydydd sy'n wynebu anawsterau ariannol yn cael lefelau sylweddol wahanol o gymorth neu heb fod yn cael unrhyw gymorth o gwbl. Byddai darparu mwy o gymorth ar gyfer costau bwyd a dŵr yn rhan o gynllun gweithredu yn helpu pobl yng Nghymru sy'n wynebu pwysau ariannol o fannau eraill, megis costau ynni cynyddol a chyflogau sy'n aros yn eu hunfan.
Ddydd Llun, fel y mae llawer ohonoch wedi'i weld rwy'n siŵr, rhyddhaodd Oxfam ddatganiad i'r wasg yn nodi bod 10 dyn cyfoethocaf y byd wedi mwy na dyblu eu harian o £700 biliwn i £1.5 triliwn yn ystod dwy flynedd gyntaf y pandemig. Ar yr un pryd, mae 99 y cant o'r ddynoliaeth wedi gweld eu hincwm yn gostwng ac mae dros 160 miliwn yn fwy o bobl ar draws y byd wedi cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi. Dylai hyn gythruddo pawb ohonom a bod yn achos pryder i bob un ohonom a'n sbarduno i weithredu, gan nad yw'n dderbyniol mai dyma'r realiti i bobl sy'n byw yn ein cymunedau. Mae rhywbeth wedi torri yn y ffordd y mae ein heconomi'n gweithio, oherwydd mae'n gwneud cam â gormod o bobl. Nid yw'n iawn ac nid oes modd ei gyfiawnhau'n foesol ac mae angen i bob Llywodraeth weithredu ar frys. Rwy'n annog holl Aelodau'r Senedd i gefnogi ein cynnig heddiw.