Storm Christoph

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 1:30, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gareth. Bu Sir Ddinbych yn llwyddiannus gyda'u cais am werth £440,000 o waith atgyweirio asedau llifogydd a draenio o ganlyniad i storm Christoph mewn gwahanol leoliadau. Cafodd y gwaith atgyweirio ar ôl y storm ei ariannu 100 y cant, ac roedd dyfarniad y grant ar gyfer y gwaith yn amodol ar arfarniad technegol, gan sicrhau bod y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cyllid llifogydd wedi'u bodloni.