Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Er fy mod yn deall bod prosesau i’w dilyn, y gwir amdani, flwyddyn ar ôl y dinistr, yw bod fy etholwyr yn dal i fod heb gysylltiad ffordd hanfodol rhwng Trefnant a Thremeirchion, ac mae dwy gymuned leol yn parhau i fod wedi'u hynysu oddi wrth ei gilydd i bob pwrpas ac nid oes unrhyw arwydd y daw hynny i ben cyn bo hir, sy'n hynod o rwystredig. Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod unrhyw geisiadau am gyllid yn cael eu blaenoriaethu a bod prosesau’n cael eu cyflymu a’ch bod yn gwneud popeth a allwch i sicrhau bod pont hanesyddol Llannerch yn cael ei hadfer cyn gynted â phosibl?