1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 26 Ionawr 2022.
Gan ddymuno'n dda i'r Gweinidog efo'i hannwyd. Mi ofynnaf i'r dirprwy felly.
5. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wneud ffyrdd sy’n llifogi’n gyson yn fwy gwydn? OQ57514
Nodaf na ddymunwyd yn dda i mi wrth i mi wella o fy annwyd i, ond fe anwybyddaf hynny.
Mae gan Lywodraeth Cymru fesurau ar waith i reoli cefnffyrdd yr effeithir arnynt gan ddigwyddiadau tywydd, gan gynnwys llifogydd. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw'r rhwydwaith ffyrdd lleol wrth gwrs, a chânt arian grant gan Lywodraeth Cymru i gynnal a sicrhau cydnerthedd eu ffyrdd.
Mae fy nymuniadau gorau i'r Dirprwy Weinidog yn dibynnu ar ei ateb i'r cwestiwn canlynol, wrth gwrs. Pan fydd glaw a gwynt neu lanw uchel yn dod at ei gilydd, mae'r ffordd i'r dwyrain o Fiwmares wrth safle Laird yn llifogi. Mae o'n digwydd yn amlach ac yn amlach, ac er nad oes yna dai dan fygythiad o lifogydd uniongyrchol, mae miloedd o gartrefi yn ardaloedd Llangoed a Phenmon yn cael eu hynysu, cartrefi gofal yn methu cael eu cyrraedd, llwybrau gwasanaethau brys yn cael eu torri, ac mae o'n risg gwirioneddol. Dwi'n gwybod bod yna ddim ateb hawdd, ond mae'n rhaid ei wneud o, a dwi'n gwybod bod swyddogion y cyngor sir yn rhannu fy mhryderon i yn dilyn fy sgyrsiau i efo cynghorwyr. Un broblem mae awdurdodau lleol yn ei hwynebu ydy diffyg capasiti i roi cynlluniau at ei gilydd, ac mi fyddwn i'n croesawu ymrwymiad i helpu awdurdodau lleol i greu'r capasiti yna. Ond fy mhrif gwestiwn i: yn allweddol, gaf i ofyn am ymrwymiad hir dymor i'r gronfa ffyrdd cydnerth, er mwyn sicrhau y bydd yna gyllid ar gael am y blynyddoedd sydd i ddod, er mwyn dod o hyd i ateb i'r broblem benodol yma, problemau eraill fel yr A5 ym Mhentre Berw er enghraifft, hefyd—hynny ydy, lle dydy tai ddim dan fygythiad, ond lle mae risg i wydnwch trafnidiaeth ac i ddiogelwch cymunedau yn risg gwirioneddol?
Wel, mae'r Aelod yn iawn. Mae hyn yn real iawn, a gwyddom y bydd yn gwaethygu wrth i'r newid yn yr hinsawdd ddwysáu ac mae gwella gallu ein ffyrdd i wrthsefyll bygythiadau stormydd ac effaith gwres eithafol hefyd yn un o'r pethau y mae angen inni ei wneud wrth inni addasu i newid hinsawdd, sy'n rhan o'n strategaeth sero net. Dyma un o'r rhesymau pam ein bod wedi sefydlu'r adolygiad o ffyrdd, felly rydym yn symud cyllid oddi wrth adeiladu ffyrdd newydd yn barhaus i gynnal a chadw'r ffyrdd sydd gennym yn well, yn rhannol er mwyn gwrthsefyll bygythiad cynyddol newid hinsawdd. A chyda hynny mewn golwg, gwnaethom greu'r gronfa ffyrdd cydnerth ac rydym yn gwario £18.5 miliwn eleni i awdurdodau lleol wneud cais i gyflawni cynlluniau fel yr un y mae Rhun yn sôn amdano. Ac yn y flwyddyn ariannol nesaf, bydd awdurdodau'n gallu parhau i wneud cais am gyllid ar gyfer cynlluniau y maent eisoes wedi'u dechrau. Mae gennym ddewisiadau anodd i'w gwneud ar y gyllideb—nid oes pwrpas esgus fel arall—ac ni allwn wneud popeth rydym eisiau ei wneud. Rydym yn gobeithio y caiff adroddiad y panel adolygu ffyrdd ei gyhoeddi yn yr haf, a bydd hynny'n rhoi cyngor i ni ar sut y gallwn wneud y dewisiadau hyn yn y blynyddoedd y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf.
Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o broblem y B5605 yn Wrecsam, a godwyd yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe. Fodd bynnag, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn gyfarwydd â'r problemau yno. Fe'i codwyd hefyd yng nghwestiynau Prif Weinidog y DU y prynhawn yma gan fy nghyd-bleidiwr, Simon Baynes AS. Ac mae cau'r ffordd hon ers mwy na blwyddyn bellach wedi cael effaith enfawr ar bobl leol, sydd bellach yn gorfod gwneud teithiau pellach. Mae hwn yn fater o bwys iddynt, gan ei fod yn ychwanegu 15 milltir a hyd at 30 munud at eu taith, tra'n ychwanegu at eu hôl troed carbon wrth gwrs. Ysgrifennais at y Gweinidog ar 23 Tachwedd ynghylch y difrod i'r B5605 rhwng Cefn Mawr a Newbridge, a achoswyd gan storm Christoph. Ysgrifennais eto yr wythnos diwethaf, ond nid wyf wedi cael ymateb i unrhyw lythyr hyd yma. Disgwylir i'r gwaith atgyweirio ar y ffordd gostio tua £1 filiwn, a 12 mis ar ôl y storm, yr unig gynnydd sydd i'w weld wedi'i wneud yw bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo arian i gynnal asesiad rhagarweiniol. Felly, Ddirprwy Weinidog, a ydych yn credu ei bod yn dderbyniol fod y ffordd hon yn aros ar gau, ac os nad ydych, pa gamau brys rydych yn eu cymryd i sicrhau ei bod yn ailagor cyn gynted â phosibl?
Ie. Sylwais ei fod wedi'i godi yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ac yng nghwestiynau Prif Weinidog y DU gan Simon Baynes—yn wallus, oherwydd mae'n beio Llywodraeth Cymru am rywbeth sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod lleol. Rwy'n deall y demtasiwn i chwarae gwleidyddiaeth ar hyn, ond dylai wneud ei waith cartref ychydig yn well cyn bwrw sen. Rydym mewn trafodaethau gyda'r awdurdod lleol. Rydym am eu helpu i ddatrys y broblem hon, ond mater iddynt hwy yw cyflwyno'r cais cywir, i'r gronfa gywir, yn y ffordd gywir. Rwy'n credu ei bod yn anffodus fod Sam Rowlands yn mynd i ganlyn y llif a'n beio ni pan nad yw'n fater sy'n ymwneud â ni yma. Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod y broblem y mae hyn yn ei achosi i'r gymuned leol ac rydym am helpu i ddod o hyd i ateb. Gan lywodraeth leol y ceir arweiniad priodol ar hyn—fel cyn-arweinydd cyngor, fe fydd yn cydnabod hynny—a gobeithiwn weithio gyda hwy i geisio dod o hyd i'r ateb cyn gynted â phosibl.
Soniais innau am hyn yn gynharach hefyd, rwy'n credu, yn y cwestiynau, fel cwestiwn atodol i gwestiwn Gareth Davies. Adeiladwyd ein seilwaith priffyrdd, gan gynnwys system ddraenio ffosydd, cwlferi a gylïau, flynyddoedd lawer yn ôl ac mae'n ei chael hi'n anodd ymdopi â faint o law sy'n aml yn disgyn y dyddiau hyn. Mae llawer o eiddo ar yr un lefel â ffyrdd ac mae peth eiddo hŷn yn is na lefel y ffordd. Mae llawer o ddŵr yn draenio oddi ar y tir ar y briffordd, a phan fydd yn ormod i gylïau priffyrdd allu ei gymryd, mae dŵr yn llifo wedyn oddi ar y ffordd ac i mewn i eiddo. Gwyliais un diwrnod wrth i law ddisgyn mor drwm fel na allai'r gylïau gymryd mwy a dechreuodd dŵr lifo i lawr tuag at eiddo a oedd wedi gosod bagiau tywod, ond diolch byth, wrth i'r glaw lacio, dechreuodd y gylïau ei gymryd, llaciodd grym y dŵr a dechreuodd ostwng. Oherwydd newid hinsawdd, mae mwy o achosion o lawiadau tebyg i law monsŵn o'r fath. Felly, beth sy'n cael ei wneud i ddal glawiad gan ddefnyddio atebion naturiol i helpu gyda chapasiti'r systemau draenio a lliniaru effaith glawiad trwm ar ffyrdd sy'n dioddef llifogydd yn rheolaidd? Diolch.
Fel y soniais yn yr ateb i Rhun ap Iorwerth, rydym yn cydnabod bod newid hinsawdd yn golygu y bydd y digwyddiadau hyn yn digwydd yn amlach ac maent yn peri problem i'n seilwaith hanfodol, ac rydym wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allwn i fynd i'r afael â hynny.
Mae'r cwestiwn y mae'r Aelod yn ei ofyn yn benodol am atebion draenio naturiol yn un pwysig iawn, oherwydd credaf ein bod yn orddibynnol weithiau ar beirianneg, pan fyddwn am geisio defnyddio dulliau gwahanol, oherwydd gallwn sicrhau canlyniadau'n gyflymach ac yn rhatach yn ogystal â gwella bioamrywiaeth wrth inni wneud hynny. Fe fydd hi'n gwybod, ers mis Ionawr 2019, fod pob datblygiad arwyddocaol newydd, gan gynnwys ffyrdd, wedi gorfod gweithredu rhyw fath o gynllun draenio cynaliadwy i ddal y glawiad a'r dŵr ffo o'r prosiectau hynny. Mae hynny bellach yn rhywbeth sy'n rhan annatod o'n dull o weithredu mewn perthynas â gwaith adeiladu mawr, ac wrth gwrs, rydym yn chwilio am gyfleoedd i liniaru lle y gallwn.