Y Gymraeg yng Nghaerdydd

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:58, 26 Ionawr 2022

Diolch yn fawr, Weinidog. Fel un o blant y brifddinas, mae wedi bod yn wych gweld y twf yn y defnydd a chlywed y Gymraeg o'n hamgylch ni wrth gerdded strydoedd y ddinas. Fel dywedoch chi, un o uchafbwyntiau'r calendr cymdeithasol yng Nghaerdydd yw gŵyl Tafwyl, ac roedd e'n golled mawr i beidio â'i gweld hi yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig, ond roedd hi'n grêt i'w chael hi y llynedd ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr ati eto eleni. Mae'n denu miloedd ar filoedd bob blwyddyn. Dwi'n ei chofio hi pan oedd hi'n cwrdd ym maes parcio'r Mochyn Du; nawr mae hi'n cwrdd yn y castell ac mae hi wedi mynd yn ŵyl fawr. Ond, gyda llwyddiant, gyda'r 39,000 o bobl sydd nawr yn mynychu Tafwyl, mae yna gostau ychwanegol, ac rŷn ni'n clywed yn gyson, onid ŷn ni, yn y Senedd yma am gostau yn gyffredinol yn cynyddu. Mae Menter Caerdydd yn meddwl y bydd cost cynnal Tafwyl eleni rhyw 20 y cant yn ddrutach o'i chymharu â 2019. Mae'n rhaid i Fenter Caerdydd sicrhau'r arian hwnnw trwy ymgeisio bob blwyddyn am wahanol grantiau, ac mae hynny yn ei hunan yn creu ansicrwydd. Mae'r ffaith bod mynediad am ddim i Tafwyl yn gwneud yr ŵyl mor hygyrch, gyda nifer o rieni a thrigolion di-Gymraeg a phobl o gefndiroedd ethnig Caerdydd yn mynychu'r ŵyl. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod Tafwyl yn parhau yn hygyrch ac yn cael ei hariannu yn addas? Diolch yn fawr.