Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch i Rhys ab Owen am y pitsh penodol hwnnw am gyllid pellach i Tafwyl. Rŷn ni'n darparu dros ryw £200,000 y flwyddyn i fenter iaith Caerdydd a menter Bro Morgannwg i'w galluogi nhw i gynnig arlwy o brosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau yng Nghaerdydd i deuluoedd ac i blant ac i bobl ifanc ac i'r gymuned gyfan, ac mae hynny i'w ddathlu. Mae'n ffantastig eu bod nhw'n gwneud y gwaith hwnnw ac i weld impact cadarnhaol hynny yn ffyniant yr iaith yn y brifddinas. Fel gwnes i ddweud, rwy'n edrych ymlaen at weld Tafwyl yn dychwelyd i'r castell, nid i faes parcio'r Mochyn Du, fel gwnaeth e ein hatgoffa ni. Mae'n gyfraniad pwysig iawn nid yn unig i'r Gymraeg yn y brifddinas, ond, byddwn i'n awgrymu, yn ehangach na hynny hefyd.