Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 26 Ionawr 2022.
Fel cynghorydd sir yn Sir y Fflint sy'n cynrychioli ward wledig, gwn yn rhy dda pa mor bwysig yw trafnidiaeth gyhoeddus i gymunedau fel fy un i. Anaml iawn y mae llwybrau bysiau gwledig yn gwneud arian, ond maent yn achubiaeth i lawer o bobl. Er bod ardaloedd poblog iawn yn tueddu i gael gwell gwasanaethau bws am mai dyna lle maent yn fwyaf proffidiol, cymunedau gwledig sydd heb fynediad at amwynderau yn lleol ac sydd angen y drafnidiaeth.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cwmnïau bysiau ledled y DU yn mynd i'r wal neu'n torri llwybrau nad ydynt bellach yn fasnachol hyfyw. Gwnaeth un gweithredwr bysiau yn Sir y Fflint 14 newid i'w wasanaethau mewn blwyddyn, cymaint fel bod y cyngor yn ei chael hi'n anodd diweddaru amserlenni bysiau, a chollodd preswylwyr hyder yn y gwasanaeth, a dyna pam y mae angen mwy o reoleiddio arnynt. Tynnodd un arall allan o lwybr rhwydwaith craidd, a mynnodd gymhorthdal 10 gwaith yr hyn a delid yn flaenorol. Yn y pen draw, roedd yn anfforddiadwy a chafodd ei ddirwyn i ben. Gan ei fod yn llwybr craidd, roedd yn effeithio'n fawr ar lawer o drigolion. Roedd yn anodd inni ddeall pam nad oedd yn fasnachol hyfyw, gan ei fod yn brysur, ac roedd y ffaith na wnaeth unrhyw weithredwr arall gais am wasanaethau yn dangos bod prinder gweithredwyr i greu marchnad. Byddai'n gyfle da i awdurdodau lleol allu camu i mewn gyda'u gwasanaeth eu hunain.
Mae trigolion wedi bod yn ofidus, yn ddig ac yn rhwystredig pan dorrwyd gwasanaethau, ac yn briodol felly. Fe wnaethant anfon deisebau at y cyngor, a mynnu ein bod yn mynychu cyfarfodydd cymunedol, a oedd yn drawmatig iawn, ond gyda chyllid a phwerau cyfyngedig roeddem yn gyfyngedig o ran ble y gallem helpu. Mewn un achos, fe wnaethom lunio amserlen newydd o amgylch yr oriau a oedd yn gweddu orau i drigolion er mwyn sicrhau bod bws yn llawn, ond ni ddaeth cais gan weithredwr am y gwasanaeth. Heb fysiau ar gael, fe wnaethom logi bws mini tacsi a thacsi i sicrhau na fyddai trigolion yn cael eu hynysu. Er bod croeso iddynt, achosodd broblemau i aelod anabl o'r gymuned a oedd angen mynediad gwastad, ac weithiau nid oedd digon o seddi i bawb. Buan y gwelsom fod bysiau mini yn broblem. Mae trafnidiaeth â mynediad gwastad mor bwysig i bobl â phramiau, cymhorthion cerdded, beiciau, troliau siopa, pengliniau a chluniau blinedig hyd yn oed. Yn y pen draw, camodd gweithredwr i mewn i redeg bws a oedd wedi'i gaffael gan y cyngor, diolch i grant gan Lywodraeth Cymru, a oedd i'w groesawu'n fawr.
Yn y digwyddiadau ymgynghori a fynychwyd gennym, roedd y rhan fwyaf o'r bobl yn 60 oed a throsodd. Nid oedd y rhan fwyaf ohonynt yn defnyddio'r rhyngrwyd, ac roeddent am gael gwasanaeth wedi'i drefnu, nid un a oedd yn ymateb i'r galw; nid oeddent yn hoffi newid. Roeddent yn poeni am ynysigrwydd cymdeithasol, methu cyrraedd apwyntiadau meddygol neu fynd i siopa. Roeddent eisiau dibynadwyedd a sefydlogrwydd, sy'n bwysig iawn. Roedd yn dorcalonnus gweld rhai pobl yn eu dagrau, yn dweud y bydd yn rhaid iddynt symud i'r dref. Mae darparu gwasanaeth bws yn helpu pobl i gadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am fwy o amser. Dyma pryd y cyflwynais ddeiseb nid yn unig i Weinidog yr economi a thrafnidiaeth, ond hefyd i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Galwai ar Lywodraeth Cymru i reoleiddio gweithredwyr gwasanaethau bysiau masnachol a rhoi pwerau a chyllid i awdurdodau lleol redeg y gwasanaethau sy'n gweddu orau i angen pobl leol gan mai hwy sy'n eu hadnabod orau. Roeddwn yn falch o glywed bod y Llywodraeth yn edrych ar hyn.
Dylid rhedeg llwybrau bysiau er mwyn pobl, nid er mwyn gwneud elw. Gellid grwpio llwybrau masnachol i gynnwys elfen o werth cymdeithasol, gyda chontractau sefydlog am gyfnod i roi sefydlogrwydd. Dyna pam y byddaf yn cefnogi'r gwelliant heddiw, sy'n cydnabod y niwed y mae preifateiddio wedi'i achosi i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn y wlad hon. Mae angen inni nodi hefyd fod trafnidiaeth bysiau cyhoeddus yn gymhleth iawn ac yn gysylltiedig â chludiant i'r ysgol, sy'n rhoi cymhorthdal gogyfer â gweddill y diwrnod. Yn Sir y Fflint, ceir 450 o gontractau trafnidiaeth, ac mae 350 o'r rheini'n gontractau ysgol sydd wedi'u hintegreiddio â thrafnidiaeth gyhoeddus i'w gwneud yn hyfyw. Mae 25 y cant o'r boblogaeth yng Nghymru yn gwbl ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus fel yr unig ddull o deithio. Mae arnom angen system lawer gwell, sy'n eu cysylltu hwy a holl ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus â'r cymunedau ehangach, gyda dibynadwyedd, sefydlogrwydd a thocynnau integredig i feithrin hyder. Diolch.