Gwasanaethau Fasgiwlar

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o wasanaethau fasgiwlar yng ngogledd Cymru? OQ57582

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:04, 1 Chwefror 2022

Cafodd gwasanaethau fasgiwlar y gogedd eu had-drefnu yn 2019. Mae gwasanaethau arbenigol wedi cael eu datblygu yn Ysbyty Glan Clwyd, tra bod gwasanaethau fasgiwlar eraill yn aros yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Cafodd y model newydd ei gymeradwyo gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a'r Gymdeithas Fasgiwlar.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:05, 1 Chwefror 2022

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb. Lywydd, rai blynyddoedd yn ôl, roedd y bwrdd iechyd yn y gogledd efo rhywbeth i frolio yn ei gylch, sef gwasanaeth fasgiwlar Ysbyty Gwynedd, a oedd ymhlith y gorau o'i fath. Yna, am ryw reswm, fel rydych chi wedi sôn, y tu hwnt i fy nealltwriaeth i, ddaru rhywun yn rhywle, o dan reolaeth y Llywodraeth yma drwy'r mesurau arbennig, benderfynu canoli'r gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd. Bellach, mae'r gwasanaeth fasgiwlar yn y gogledd yn dioddef problemau aruthrol, efo'r gyfradd uchaf o farwolaethau yn dilyn trychiadau, sef amputations. Ydych chi'n credu bod hyn yn dderbyniol? Yn sicr, dydw i ddim. Mae Siân Gwenllian, ein Haelod ni fan hyn ar feinciau Plaid Cymru, eisoes wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i mewn i'r canoli yma. Mae'n gywilyddus bod gwasanaeth a oedd ar un adeg ymhlith y gorau o'i fath ac i frolio yn ei gylch wedi disgyn i'r fath drafferthion. A wnewch chi sicrhau bod yna ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal i'r canoli?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:06, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod dau beth y mae'n rhaid gwahaniaethu rhyngddyn nhw yma. Ceir y penderfyniad gwreiddiol i ganolbwyntio gwasanaethau fasgwlaidd arbenigol yn Ysbyty Glan Clwyd. Dywedodd yr Aelod bod hynny wedi digwydd 'am ryw reswm' fel pe bai'n fater dibwys a oedd wedi cael ei dynnu allan o'r awyr. Bydd yn gwybod yn iawn fod yr achos dros ganolbwyntio gwasanaethau arbenigol yn un, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, a gefnogwyd yn gryf gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, gyda chefnogaeth Cymdeithas Fasgwlaidd Prydain Fawr ac Iwerddon, oherwydd y dystiolaeth o fannau eraill bod gwasanaethau arbenigol yn arwain at ganlyniadau gwell pan fydd gennych chi bobl sy'n gwneud y gwaith hwnnw ddydd ar ôl dydd ac yn gwneud y pethau arbenigol hynny. Roedd ugain y cant o wasanaethau i fod i gael eu darparu yn Ysbyty Glan Clwyd, gan adael 80 y cant o wasanaethau fasgwlaidd yn dal i gael eu darparu yn Wrecsam ac ym Mangor. Mae apwyntiadau cleifion allanol, llawdriniaethau gwythiennau chwyddedig, diagnosteg, adolygiadau o atgyfeiriadau fasgwlaidd cleifion mewnol ac adsefydlu yn dal i gael eu darparu ar draws y gogledd.

Nid wyf i fy hun yn credu mai'r model, fel y'i cynigiwyd ac y'i cefnogwyd yn wreiddiol gan y bwrdd ac na chafodd ei wrthwynebu gan y cyngor iechyd cymuned, oedd yr un anghywir. [Torri ar draws.] Gwn fod yna bobl nad ydyn nhw'n cytuno â hynny. Sylwais fod Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn ei adroddiad wedi dweud bod y tanseilio cyson o'r model gan feirniadaethau lleol wedi gwneud gweithredu'r model yn fwy anodd ei gyflawni. [Torri ar draws.] Wel, dyma mae'n ei ddweud. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n ei hoffi, ond dyna mae'n ei ddweud. Dywedwyd ganddyn nhw bod yr ymdrechion cyson i danseilio'r model wedi gwneud ei weithredu yn fwy heriol, ac y gallai tanseilio ysbryd pobl sy'n gyfrifol am y gwasanaethau gan y beirniadaethau hynny, arwain yn y pen draw at wasanaethau gwaeth i gleifion. Efallai nad ydych chi'n ei hoffi, ond dyna mae'r adroddiad yn ei ddweud.

Rwy'n gwahaniaethu fy hun rhwng y model, a oedd, yn fy marn i, yn un cywir, a'r problemau gweithredu, y mae'n rhaid eu cywiro. Nododd yr adroddiad gwreiddiol—ceir adroddiad dau gam gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon—nifer o bethau yr oedd angen eu gwneud o hyd i wneud yn siŵr bod y cleifion yn y gogledd yn cael y budd mwyaf posibl o'r model newydd. Cyfrifoldeb y clinigwyr sy'n arwain y gwasanaeth hwnnw o hyd, a'r bwrdd, yw gwneud yn siŵr bod y buddsoddiad a ddarparwyd—buddsoddiad yn y seilwaith yng Nglan Clwyd ac mewn staffio arbenigol y gwasanaeth yng Nglan Clwyd—bellach yn sicrhau'r manteision yr oedd y model yno i'w sicrhau. Os oes mwy i'w wneud, yna edrychaf ar y bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth i wneud yn siŵr eu bod nhw'n dysgu'r gwersi gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon ac yn unioni unrhyw beth y mae angen ei gywiro, oherwydd y model ei hun yw'r un iawn i bobl yn y gogledd. 

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 2:09, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw. Sylwaf hefyd bod gan gyd-Aelod gwestiwn ar y pwnc hwn yfory, felly mae'n amlwg yn fater pwysig i drigolion y gogledd. Prif Weinidog, fel yr amlinellwyd eisoes yma, cafwyd y newid sylweddol hwnnw i'r gwasanaethau fasgwlaidd yn y gogledd. Mae Mr ap Gwynfor wedi tynnu sylw at lawer o'r problemau y mae'n ymwybodol ohonyn nhw, ac rwy'n sicr yn ymwybodol o rai tebyg, gyda'r newidiadau hynny. Fe wnaethoch chi sôn, Prif Weinidog, am adroddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon; maen nhw wedi tynnu sylw at brinder gwelyau sylweddol a dryswch ynghylch lefelau staffio, ac maen nhw hefyd wedi amlinellu risg diogelwch i gleifion yn eu hadroddiad hefyd. Wrth gwrs, mae aelodau'r bwrdd iechyd yn y gogledd wedi amlinellu'r cynnydd sy'n cael ei wneud i ddatrys y broblem hon. Ond, Prif Weinidog, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, os nad oes dim o'i le ar y model sydd yno ar hyn o bryd, oni fyddech chi'n derbyn y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn gam da tuag at adfer ffydd y cyhoedd y mae mawr ei hangen yn y gwasanaeth hwn? Diolch.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:10, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Nid wyf i'n credu y byddai ymchwiliad cyhoeddus, gyda'r amser y byddai'n ei gymryd, o fudd mawr i gleifion yn y gogledd. Yr hyn yr wyf i'n ei gredu yw bod adolygiad annibynnol o'r gwasanaeth yn cael ei gynnal gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, ac nid yw rhan 2 o hwnnw wedi adrodd eto. Rwy'n disgwyl i'r adroddiad hwnnw gael ei gymryd o ddifrif gan y bwrdd a chan y bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth fel bod y newidiadau sydd wedi digwydd mewn gwasanaethau fasgwlaidd, nid yn unig yn y gogledd, fel y dywed yr Aelod—. Mae gwasanaethau fasgwlaidd wedi newid ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Mae'n ddisgyblaeth fwy arbenigol nag yr arferai fod, ac os oes angen nid yn unig sylw fasgwlaidd bob un dydd ond gwasanaethau arbenigol, yna mae'n well i chi fel claf dderbyn gofal gan bobl sy'n cyflawni'r llawdriniaethau hynny drwy'r amser, yn hytrach na chan bobl sy'n eu gwneud bob nawr ac yn y man yn rhan o'r amrywiaeth ehangach honno o ddyletswyddau y maen nhw'n eu cyflawni. Dyna natur meddygaeth fodern. Mae'n anodd, oherwydd mae'n anochel bod pobl yn gweld pethau yn newid ac mae pobl yn hoff o'r gwasanaeth sydd ganddyn nhw. Ond ar draws y Deyrnas Unedig gyfan dyma fu'r patrwm mewn gwasanaethau fasgwlaidd—gwasanaethau arbenigol wedi'u dwyn ynghyd, a'r agweddau mwy mater o drefn yn parhau i gael eu cyflawni yn fwy lleol. Dyna mae'r model yn ei ddarparu. Mae bellach, fel y dywedais, i fyny i'r bobl hynny sy'n gyfrifol am y gwasanaeth hwnnw, sy'n gyfrifol yn glinigol amdano ac sy'n gyfrifol amdano ar lefel bwrdd, wneud yn siŵr bod yr holl fuddsoddiad sydd wedi cael ei wneud ynddo yn talu ar ei ganfed fel gwell gwasanaeth i gleifion yn y gogledd.