1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Chwefror 2022.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fentrau Llywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau yn y gweithle ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion uwchradd? OQ57561
Mae datblygu sgiliau yn y gweithle yn rhedeg fel llinyn ar draws holl feysydd y Cwricwlwm i Gymru newydd. Mae'n paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd diweddarach drwy roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau iddyn nhw ffynnu yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'r arolwg sgiliau cyflogwyr wedi nodi bod diffyg ystod eang o sgiliau a phriodoleddau ymhlith ymgeiswyr am swyddi yng Nghymru, gyda dros 84 y cant o swyddi gwag yn cael eu hachosi yn rhannol gan ddiffyg gallu technegol neu ymarferol, a 66 y cant yn cael eu hachosi yn rhannol gan ddiffyg sgiliau pobl a sgiliau personol, fel y gallu i reoli eich amser eich hun a blaenoriaethu tasgau. Rydym ni i gyd yn cytuno bod addysg academaidd dda yn bwysig i'r gweithle, ond mae'n rhaid i ni gydnabod y gall y galluoedd hyn gael eu gwastraffu os nad oes gan rywun y sgiliau ategol sydd eu hangen i gael gwaith. Mae'r sefyllfa hon yn waeth byth os oes ganddyn nhw'r cymwysterau academaidd anghywir sydd eu hangen ar gyfer y gyflogaeth y maen nhw ei heisiau. Mae'n ymddangos yn amlwg mai un ateb ymarferol ar gyfer mynd i'r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc a recriwtio i swyddi yw i ysgolion uwchradd gael perthynas well o lawer â busnesau lleol lle mae'r busnesau hyn yn gallu dangos yn uniongyrchol i ddysgwyr y sgiliau a'r addysg sydd eu hangen ar gyfer swyddi ac i roi cyfle i ddysgwyr ddeall yn well sut mae busnesau yn gweithio, pa sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, ac o bosibl, hyd yn oed agor y drysau ar gyfer gwell cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth.
I gynnig enghraifft, mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, sy'n cynrychioli consortiwm o gwmnïau adeiladu yng Nghymru, wedi bod yn effeithiol iawn o ran agor drysau i ddysgwyr ysgol uwchradd i gael profiad o safleoedd adeiladu gweithredol ac iddyn nhw gael golwg y tu ôl i'r llenni i weld y prosiectau a'r dyluniadau adeiladu diweddaraf. Mae diffyg cyngor gyrfaoedd a phrofiad gwaith priodol a pherthnasol wedi bod yn destun pryder i mi erioed ac rwy'n credu y gallwn ni wneud yn well ar gyfer ein dysgwyr ysgol uwchradd, gan ddarparu integreiddiad hwy i'r gweithlu a thrwy ddarparu profiadau manwl o ddiwydiant a fydd yn caniatáu iddyn nhw ddeall a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa ymrwymiad wnewch chi ei roi i sicrhau bod ysgolion uwchradd yn gweithio yn rhagweithiol gyda busnesau lleol i integreiddio dysgwyr i'r gweithlu tra byddant yn yr ysgol?
Diolch i'r Aelod am hynna. Rwy'n cytuno â nifer o'r pwyntiau a wnaeth; yn ogystal â'r sgiliau technegol a'r cymwysterau academaidd sydd eu hangen ar bobl, yn aml y sgiliau dynol, y sgiliau meddal sy'n cael pobl i mewn i'r gweithle ac yn caniatáu iddyn nhw lwyddo yn y profiad cyntaf hwnnw. Rwyf i hefyd yn cytuno mai po fwyaf y gellir ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc, yn ein hysgolion uwchradd yn arbennig, yn gallu cael profiad gwaith, i gyflogwyr ddod i mewn i ysgolion a cholegau, y mwyaf o gyfleoedd fydd i bobl ifanc, ar y naill law, i ddysgu am gyfleoedd sydd yno ar eu cyfer, ond, mewn gwirionedd, hefyd i gyflogwyr ddenu pobl ifanc i'r swyddi hynny.
Oherwydd, Llywydd, rwy'n credu yn yr amser yr wyf i wedi bod yn gysylltiedig â datganoli, ein bod ni wedi gweld newid dwys iawn fel hyn, sef, ers amser maith, yr hyn yr oeddem ni'n credu oedd y dasg oedd dod o hyd i swyddi i bobl ifanc eu gwneud, ac, yn y dyfodol, rwy'n credu mai'r her fydd dod o hyd i bobl ifanc i wneud y swyddi, gan fod gennym ni lai o bobl ifanc yng Nghymru. Mae gennym ni fwy o bobl o oedran ymddeol. Rydych chi'n gweld y prinder sgiliau sydd eisoes yn economi Cymru, a bydd yn rhaid i gyflogwyr weithio yn galetach i ddenu pobl ifanc i ddod i'r swyddi y mae angen iddyn nhw gael eu gwneud. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n stryd ddwyffordd yn y ffordd honno: mae'n sicr o fudd i bobl ifanc, ond mae cwmnïau synhwyrol o'r math y soniodd Joel James amdanyn nhw, sy'n gwneud yr ymdrechion hynny, maen nhw'n gwybod ei fod o fantais iddyn nhw hefyd, gan y byddan nhw'n gallu denu'r bobl ifanc hynny yn well i'w swyddi yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd y mis hwn i ysgolion ar yrfaoedd a gweithgarwch sy'n gysylltiedig â gwaith mewn ysgolion, ac, mewn gwirionedd, Llywydd, mae llawer iawn yn digwydd. Yn Wythnos Darganfod Gyrfa ym mis Gorffennaf y llynedd, cymerodd 146 o ysgolion uwchradd ran; mae 177 o ysgolion uwchradd, neu 85 y cant o'r cyfanswm, yn adrodd, yng Nghymru, eu bod nhw'n ymgysylltu â chyflogwyr yn ystod y flwyddyn, a dywedodd wyth o bob 10 eu bod nhw'n cysylltu â nhw sawl gwaith. Felly, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am yr angen i adeiladu o'r platfform hwnnw, oherwydd po fwyaf y gwnawn ni ddod â'r ddau fyd hynny at ei gilydd, y mwyaf bydd manteision i bobl ifanc ac i gyflogwyr da hefyd.