1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Chwefror 2022.
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl yng Nghymru? OQ57562
Llywydd, bydd yr argyfwng hwn yn cael effaith ddwys ar filoedd o deuluoedd yng Nghymru. Mae toriadau creulon a bwriadol i fudd-daliadau, methiant i wrthbwyso cynnydd mewn prisiau tanwydd, a phenderfyniad i fwrw ymlaen ag addewid maniffesto a dorrwyd i beidio â chynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol yn dangos bod hwn yn argyfwng a grëwyd yn Stryd Downing.
Mae biliau bwyd archfarchnadoedd wedi cynyddu a byddan nhw'n cynyddu ymhellach, gallai aelwydydd dalu £700 y flwyddyn yn fwy ar gostau ynni yn y pen draw, ac mae treth yswiriant gwladol y Torïaid yn ymddangos ar y gorwel. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn newid y ffordd y mae'n adrodd ar gostau byw, felly byddwn ni'n cael darlun mwy cywir o effaith penderfyniadau'r Torïaid yn San Steffan. Maen nhw'n cael partïon; mae ein cymunedau ni yn talu'r bil. I'r gwrthwyneb, mae polisi Llywodraeth Cymru, fel cynllun tanwydd y gaeaf, yn rhoi cymorth. Sut arall y bydd eich Llywodraeth yn blaenoriaethu cynorthwyo pobl yng Nghwm Cynon a ledled Cymru yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan yr argyfwng costau byw?
Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn pwysig yna, Llywydd, a diolch iddi am dynnu sylw at gynllun tanwydd y gaeaf, yn enwedig ar ddiwrnod pan fo fy nghyd-Weinidog Jane Hutt wedi gallu cyhoeddi dyblu faint o gymorth sydd ar gael ganddo—wyddoch chi, peth gwych iawn i allu ei wneud yn wyneb yr holl heriau yr ydym ni'n gwybod y bydd yn rhaid i deuluoedd yng Nghymru fyw drwyddyn nhw nawr. Felly, mae £200 ar gael nawr. Ddoe, Llywydd, cafwyd 146,000 o ymgeiswyr eisoes ar gyfer y gronfa honno, ac roedd dros 106,000 o geisiadau eisoes wedi cael eu talu. Mae'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais wedi cael ei ymestyn i 28 Chwefror, ac rydym ni eisiau i fwy o bobl ddod ymlaen i fanteisio ar y cynllun a fydd ar gael yma yng Nghymru, a dim ond yma yng Nghymru.
A, Llywydd, i ateb cwestiwn ehangach Vikki Howells, dim ond un elfen yw honno o becyn cymorth llawer ehangach y byddwn ni'n parhau i'w ddarparu i'r teuluoedd hynny sy'n gweld anawsterau gwirioneddol o'u blaenau eleni. Mae'r cynllun budd-dal y dreth gyngor, a ddiddymwyd yn Lloegr, sy'n cael ei gadw yma yng Nghymru—£244 miliwn yn cael ei ddarparu bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr nad oes yn rhaid i'r teuluoedd tlotaf, yr aelwydydd tlotaf yn ein gwlad, gyfrannu at y dreth gyngor. Mae'r gronfa cymorth dewisol, a ddiddymwyd yn Lloegr, sy'n cael ei chadw yma yng Nghymru, ac am resymau COVID yn unig, Llywydd, wedi gwneud dros 280,000 o daliadau am gost o fwy na £19 miliwn. Ac os ydych chi eisiau cymryd un enghraifft yn unig, Llywydd, yr enghraifft nodweddiadol, ym mis Ebrill eleni, bydd cleifion yn Lloegr sydd yn sâl ac sydd angen cael presgripsiwn gan eu meddyg yn ei chael—[Torri ar draws.] Bydd cleifion yn Lloegr—[Torri ar draws.] Bydd cleifion yn Lloegr, Llywydd, sy'n sâl ac sydd angen cymorth drwy bresgripsiwn yn talu £9.35 am bob un eitem, ac, yn Lloegr, bydd y Llywodraeth Geidwadol yn ychwanegu at hynny drwy godi'r ystod oedran pan fydd presgripsiynau am ddim. Maen nhw am ddim yn 60 oed nawr, a'r bwriad yw ei godi i 65—bydd 2.6 miliwn yn fwy o bobl yn ddiweddarach mewn bywyd yn cael eu hunain yn talu'r £9.35 hwnnw, ac ni fydd yr un ohonyn nhw, Llywydd, yn talu'r arian hwnnw yma yng Nghymru.