– Senedd Cymru am 4:11 pm ar 1 Chwefror 2022.
Eitem 5 y prynhawn yma, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad—Hannah Blythyn.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bob mis Chwefror, rydym yn nodi Mis Hanes LHDTC+. Mae'n gyfle i ddathlu a choffáu'r cyfraniad y mae pobl LHDTC+ wedi'i wneud i'n cymunedau a'n gwlad, i roi sylw i hanes, bywydau a phrofiadau cyfoethog pobl LHDTC+ a'u cydnabod yn briodol, i fyfyrio ar ba mor bell yr ydym wedi dod ac i gynyddu ein hymdrechion tuag at fwy o gydraddoldeb.
Gallwn fod yn falch o'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn y frwydr dros gydraddoldeb LHDTC+, o gamau i wahardd gwahaniaethu mewn nwyddau a gwasanaethau, i ddiwedd yr adran 28 niweidiol a phriodas gyfartal. Yng Nghymru yn unig, rydym yn ymgorffori addysg gynhwysol LHDTC+ fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Rydym wedi sefydlu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i helpu ein teulu traws i fod yn nhw eu hunain. Ni oedd y genedl gyntaf yn y DU i gynnig proffylacsis cyn-gysylltiad yn rhad ac am ddim ar y GIG. Ac rydym ar ein ffordd i ddatblygu cynllun gweithredu LHDTC+ arloesol.
Bu brwydro caled i ennill y rhyddid a'r hawliau sydd gennym heddiw, ond maen nhw'n rhan o'n hanes cymharol ddiweddar. O fewn fy oes i, gallem golli swydd, ni allem fod yn ni ein hunain a gwasanaethu ein gwlad, nid oedd neb yn sôn amdanom ni mewn ystafelloedd dosbarth, cawsom ein diystyru fel ffordd o fyw neu glefyd y gellid ei wella, a'n bod yn ffieidd-dra yng ngolwg crefydd. Yn wir, pan eisteddodd y sefydliad hwn gyntaf, gallem barhau i gael ein gwrthod rhag gwasanaethu ym maes y gyfraith, rhag cael rhywle i fyw a chael gwrthod yr hawl i briodi'r unigolyn a garwn.
Ym mis Rhagfyr, roedd yn fraint cael cynnal digwyddiad yma yn y Senedd ar gyfer Diwrnod AIDS y Byd, wrth i ni nodi 40 mlynedd ers dechrau'r epidemig AIDS. Mae llawer wedi newid yn ystod y pedwar degawd diwethaf—nid yw HIV, y feirws sy'n achosi AIDS, bellach yn cael yr effaith a gafodd unwaith, ac mae ymrwymiad i ddileu achosion newydd o HIV erbyn 2030. Ddeugain mlynedd yn ôl, wynebodd y gymuned hoyw ofn, gelyniaeth a difenwad—cyfnod o hanes annerbyniol ac arteithiol a alluogwyd gan gymdeithas, wedi'i ysgogi gan y cyfryngau ac wedi'i gyfreithloni gan bolisi a diffyg gweithredu'r Llywodraeth. Ac eto, yn anffodus, heddiw, gwelwn lawer o'r un iaith o ddifrïo, ofn ac aralleiddio wedi'u hanelu at y gymuned draws. Y gwahaniaeth nawr yw bod Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda'n cymuned draws, ochr yn ochr â chynghreiriaid ac ymgyrchwyr di-rif.
Mae peidio â gwybod ein hanes yn peryglu ein dyfodol. Nid yw hyn yn amser i eistedd yn ôl, i beidio â chodi llais a meddwl bod y gwaith yn cael ei wneud, bod hawliau'n cael eu hennill. Dyna pam yr ydym yn benderfynol o weld ein cynllun gweithredu LHDTC+ arloesol. Dyna pam mae'n rhan allweddol o'n rhaglen lywodraethu a'n cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru. A dyna pam yr ydym wedi ymrwymo i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar o ran LHDTC+ yn Ewrop. Hoffwn ddiolch i banel arbenigol LHDTC+ am eu holl gefnogaeth er mwyn i ni gyrraedd y man lle'r ydym ni heddiw. Rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad i'r cynllun drafft, ac edrychaf ymlaen at fod mewn sefyllfa i gyhoeddi'r cynllun a'i roi ar waith.
Rydym hefyd yn benderfynol o weld gweithredu ystyrlon a chyflym ar yr arfer ffiaidd hwnnw o therapi trosi. Er bod Llywodraeth y DU wedi rhoi arwydd ei bod yn symud ar hyn, rwy'n pryderu am yr oedi i'w hymgynghoriad a chryfder eu cynigion, yn enwedig o ran cydsyniad. Rwy'n glynu wrth ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu nid yn unig i ddefnyddio'r holl bwerau presennol i ddod â'r arfer i ben yng Nghymru, ond i geisio datganoli pwerau ychwanegol pe na bai cynigion Llywodraeth y DU yn mynd yn ddigon pell.
Er gwaethaf y cynnydd yr ydym wedi'i wneud, gwyddom mai'r gwir trist yw bod troseddau casineb ar gynnydd. Mae'r ystadegau'n dangos cynnydd o 16 y cant mewn troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru o'i gymharu â 2019-20. Roedd 19 y cant yn droseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol, roedd 4 y cant yn droseddau casineb trawsryweddol. Mae canlyniadau erchyll troseddau casineb wedi'u hamlygu mewn adroddiadau diweddar am ddigwyddiad trasig ac ofnadwy a ddigwyddodd yng nghanol ein prifddinas.
Mae'n bryd i fwrw casineb, rhagfarn ac ofn i ebargofiant. Mae'n bryd symud ymlaen ag achos cyffredin i greu'r Gymru fwy cyfartal, fwy cyfiawn a fwy cynhwysol yr ydym ni i gyd am ei gweld. Yn ystod Mis Hanes LHDTC+, rydym yn talu teyrnged i'r arloeswyr; y gweithredwyr a'r cynghreiriaid; yr ymgyrchwyr a'r newidwyr; y rhai sydd wedi byw drwyddo a'r rhai a gollodd eu bywydau yn llawer rhy gynnar. Diolch. Ac i bawb sy'n parhau i arloesi a phob person LHDTC+ yng Nghymru; rydych chi'n anhygoel, rydych chi'n cael eich gwerthfawrogi ac rydych chi'n gwneud gwahaniaeth.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am wneud y datganiad hwn heddiw ar Fis Hanes LHDTC+? Rwy'n credu ei fod yn bwnc pwysig iawn ac yn rhywbeth yr wyf i'n gobeithio y gallwn ni i gyd weithio ar draws y Siambr i godi proffil a helpu pobl i ddeall pwysigrwydd y mis hwn hefyd. Rwy'n falch iawn, fel chithau, o fyw yn un o'r lleoedd mwyaf agored a goddefgar yn y byd lle gall pobl uniaethu fel LHDTC+, ac rwy'n siŵr bod y mwyafrif llethol ohonom yn credu'n gryf y dylai pawb fod yn rhydd i fyw eu bywydau a chyflawni eu potensial ni waeth pwy y maen nhw'n dewis ei garu.
Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig nad yw'n achos yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol, yn enwedig yn rhyngwladol, lle mae'r darlun yn aml yn wahanol iawn yn wir. Felly, er nad yw materion tramor wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru, mae gennym strategaeth ryngwladol o hyd i werthu Cymru i'r byd. A gaf i ddechrau drwy ofyn pa ddull y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd, drwy ei strategaeth ryngwladol, pan fydd yn ymdrin â gwledydd lle mae hawliau cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon neu nad yw hawliau LHDTC+ mor gryf ag y maen nhw yma yn y DU?
Ond mae'n rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon yma chwaith, ynghylch y darlun yma yn ddomestig. Dim ond nôl yn 1967—55 mlynedd yn ôl—yr oedd yn anghyfreithlon bod yn hoyw yng Nghymru a Lloegr. Diolch byth, dirymwyd yr adran 28 gywilyddus yn 2003 hefyd, ychydig yn llai nag 20 mlynedd yn ôl. Diolch byth, mae ein hanes diweddar wedi bod yn llawer mwy cadarnhaol. Y llynedd, dilëwyd y gwaharddiad tri mis ar ddynion hoyw a deurywiol rhag rhoi gwaed, er enghraifft, ac erbyn hyn mae digwyddiadau Pride ledled Cymru yn rhan hanfodol o'n calendr digwyddiadau blynyddol, pan fo COVID yn caniatáu hynny, yn amlwg.
Efallai mai'r newid nodedig mewn hawliau LHDTC+ yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn y DU oedd cyflwyno priodas o'r un rhyw, sydd yn llythrennol wedi bod yn newid bywyd i lawer o gyplau hoyw a lesbiaidd ledled y wlad. Bydd y flwyddyn nesaf yn nodi 10 mlynedd ers i'r Ddeddf gael ei phasio i gyfreithloni priodas o'r un rhyw yn y DU, felly tybed pa gynlluniau, os o gwbl, sydd gan Lywodraeth Cymru i goffáu'r digwyddiad pwysig hwn y flwyddyn nesaf.
Er gwaethaf yr holl gynnydd a'r hanes yn ystod y blynyddoedd diwethaf yr ydym ni'n dau wedi'i drafod, mae llawer iawn i'w wneud eto. Fe wnaethoch chi sôn am ystadegau, ac mae gennyf rai fy hun. Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Gallup, roedd wyth o bob 10 ymatebydd wedi profi troseddau casineb gwrth-LHDTC+ ac iaith casineb ar-lein yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn y DU, ac roedd pump o bob 10 ymatebydd wedi profi cam-drin ar-lein 10 gwaith neu fwy. At hynny, mae troseddau casineb sy'n seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol wedi codi 13 y cant ers 2017, tra bod troseddau casineb yn erbyn pobl draws wedi mwy na dyblu. At hynny, mae bron i un o bob pedwar o bobl LHDT wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol a/neu eu hunaniaeth rhywedd.
Rwy'n siŵr y cytunwch â mi, Dirprwy Weinidog, fod y rhain yn ffigurau pryderus. Felly, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau yr eir i'r afael â'r cam-drin hwn i'w wreiddiau a sicrhau bod Cymru'n lle diogel i bawb? Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl i roi gwybod am y troseddau hyn yn y lle cyntaf?
Dirprwy Weinidog, mae'n hanfodol bod unigolion LHDTC+ yn cael eu trin yn deg a chyfartal wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda staff wedi'u hyfforddi i gefnogi cleifion a defnyddwyr gwasanaethau ag anghenion penodol yn effeithiol. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau hyfforddiant cydraddoldeb digonol i'r GIG a'r rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau cymdeithasol, ac i fynd i'r afael â chroestoriadedd, gan gynnwys materion sy'n effeithio ar fenywod anabl, BAME a phobl anabl LHDTC+ hefyd?
Sonioch chi hefyd yn eich datganiad am gynllun LHDT Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Gorffennaf y llynedd. Bryd hynny, soniodd fy nghyd-Aelod Altaf Hussain yn briodol, ei bod yn bwysig i'r Senedd fod â swyddogaeth glir a pharhaus wrth graffu ar y cynllun hwnnw. Gofynnodd i chi ymrwymo i adolygiad blynyddol o'r cynllun yn y Senedd. Bryd hynny, fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn agored i feddwl am ffyrdd o gynnwys y Senedd wrth graffu ar y cynllun, i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth. Felly, chwe mis yn ddiweddarach, roeddwn eisiau gofyn i chi beth yw canlyniad yr ystyriaeth honno ac a fyddwch yn ymrwymo i alwadau Altaf Hussain am adolygiad blynyddol gan Senedd y cynllun LHDT.
Yn olaf, Dirprwy Weinidog, fe wnaethoch chi sôn hefyd yn eich datganiad am y ffaith bod gwasanaethau hunaniaeth rhywedd yma yng Nghymru erbyn hyn, y bydd yr unigolion hynny sydd angen y gwasanaethau hynny yn eu croesawu'n fawr wrth gwrs. Fodd bynnag, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno ei bod yn fater o bryder nad oes clinig hunaniaeth rhywedd yma yng Nghymru ar hyn o bryd, sy'n golygu bod yn rhaid i'r rhai mewn angen deithio i Loegr i ddod o hyd i un. Ddwy flynedd yn ôl, pleidleisiodd y Senedd i archwilio'r posibilrwydd o agor clinig hunaniaeth rhywedd newydd yma yng Nghymru, ac eto Cymru yw'r unig un o'r pedair gwlad yn y DU sy'n dal heb gael un. Felly, er bod gwasanaeth rhywedd Cymru wedi'i greu yn dilyn ymrwymiad a wnaed yn 2017, pam y mae cymaint o bobl yn dal i orfod gwneud y daith honno i Loegr i fynd i glinig hunaniaeth rhywedd?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniadau? Mae'n dda eich gweld yn ôl ac yn edrych mor dda ac rwy'n credu bod hwnna'n ymateb ystyriol a meddylgar iawn i bwnc pwysig iawn, ac mae'n iawn ein bod ni fel Aelodau yn dod at ein gilydd yr adeg hon o'r flwyddyn i ddathlu amrywiaeth gyfoethog ein cenedl ac fel y dywedwch chi, pa mor bell yr ydym wedi dod. Ond rydych yn llygad eich lle: ni allwn gymryd y cynnydd hwnnw'n ganiataol, oherwydd nid yw cynnydd yn anochel, ac mae'r cynnydd wedi digwydd oherwydd bod pobl yn barod i ymladd drosto ac i fwrw ymlaen â hynny. Ac fe wnaethoch chi gyfeirio at rai o'r pethau y dywedais i yn y datganiad ynghylch pa mor ddiweddar yw peth o'r hanes hwn, ac ni ddylem anghofio hynny a cholli golwg arno.
Ac, ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud yma yng Nghymru o hyd. Mae mwy i adeiladu arno, felly gobeithio y bydd y cynllun gweithredu yn cynnig arweiniad da i ni ar hynny a baromedr da o'r ffordd yr ydym yn bwrw ymlaen â hynny, ac rwy'n fwy na pharod i ymrwymo Llywodraeth Cymru i gael adolygiad blynyddol, gan sicrhau ei fod yn dod gerbron y Senedd hon. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, nid yn unig i'n gwneud ni'n atebol, ond ei fod mewn gwirionedd yn gynllun byw sy'n anadlu; nid yw'n rhywbeth i'w roi ar silff, mae'n rhywbeth i newid bywydau pobl, gobeithio.
O ran digwyddiadau Pride ledled Cymru a sut y mae hynny wedi newid dros y blynyddoedd, rwyf wedi dweud wrth bobl yma cyn hyn fy mod wedi bod i ddigwyddiadau Pride ledled y DU—Llundain, Lerpwl, Manceinion, Caerdydd—ond yr un mwyaf cyffrous i mi oedd yr un a aeth drwy'r dref farchnad yn fy etholaeth gartref, lle cefais fy magu, a gweld pobl yn gwneud eu siopa arferol yn y farchnad, stopio, clapio ac ymuno. Roedd yn foment wirioneddol wefreiddiol, ac mae'n dangos i chi pa mor bell yr ydym wedi dod a phwysigrwydd dod â gwahanol gymunedau at ei gilydd hefyd yn y mannau diogel hynny.
Cyfeirioch chi at y cynnydd mewn troseddau casineb ac rydym wedi clywed am ddigwyddiadau diweddar hefyd, ac rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n bwysig iawn i ni yw codi ymwybyddiaeth ar yr un pryd, yn ogystal â sicrhau bod pobl yn adrodd am y troseddau hyn, ein bod yn codi ymwybyddiaeth o'r hyn yw trosedd gasineb, ac mae iddi ffurfiau gwahanol: gallai fod yn ymosodiad dieflig erchyll, yn ymosodiad corfforol, ond gallai fod yn eiriau yn unig hefyd. Rwy'n credu fy mod wedi dweud yn y fan yma o'r blaen yn ddiweddar iawn, fy mod i a fy ngwraig wedi dioddef trosedd gasineb a'r person hwnnw—. Cydnabuwyd ei bod yn drosedd gasineb, dim ond rhywun sy'n credu ei bod hi'n iawn i gysylltu â chi ac yn y bôn i ddweud wrthych chi eich bod yn mynd i uffern ac mae angen i chi gael therapi trosi a phethau felly. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn siarad amdano ac yn cydnabod beth ydyw, a dyna pam yr ydym wedi cefnogi ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru. Gwn fod fy nghyd-Aelod Jane Hutt yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r heddluoedd o bob rhan o Gymru, ac rydym hefyd yn cefnogi Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, felly y prosiect arbennig o ran sut y gallant gefnogi yn enwedig pobl sydd wedi dioddef troseddau casineb LHDTC+. Ac rydym yn awyddus i fwrw ymlaen â'r argymhellion a phwyso ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith i wneud troseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol yn droseddau mwy difrifol fel y mae troseddau casineb eraill hefyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r Dirprwy Weinidog am ei datganiad ac rwy’n falch iawn ar ran Plaid Cymru i nodi ein cefnogaeth ni i Fis Hanes LHDTC+ a’n hymrwymiad parhaus fel plaid i sicrhau bod lleisiau pobl LHDTC+ yn cael eu clywed, eu profiadau yn cael eu cydnabod, a’u cyfraniad i’n cymunedau a’n cenedl yn cael eu dathlu. Rwy'n falch hefyd, drwy ein cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, fod Plaid Cymru yn helpu i sicrhau drwy’r cynllun gweithredu LHDTC+ fod hawliau pobl LHDTC+ yn cael eu hyrwyddo a’u hamddiffyn, gan alw hefyd am y grymoedd sydd eu hangen i gael eu datganoli, er mwyn galluogi Cymru i fod yn un o’r cenhedloedd mwyaf diogel yn Ewrop i bobl LHDTC+ yn unol â nod y cynllun.
Mae cael y grymoedd i wella bywydau ac amddiffyn diogelwch pobl traws yng Nghymru yn hanfodol os ydym am sicrhau tegwch a rhoi diwedd ar ragfarn ac anghydraddoldeb. Mae Plaid Cymru a’r Llywodraeth yn gytûn o ran ein cefnogaeth i wahardd therapi trosi. Mae rhai datganiadau diweddar gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynglŷn â'r broses o ddiwygio'r ddeddfwriaeth wedi achosi pryderon yn y gymuned LHDTC+ yma yng Nghymru, dros y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol. Mae’n dda, felly, clywed y Dirprwy Weinidog yn cadarnhau safbwynt y Llywodraeth ar wahardd therapi trosi a'r diwygiadau i'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 o ganlyniad i’r datblygiad siomedig yma, ac mae Plaid Cymru yn adleisio hyn. Gallwn ni ddim ymddiried yn y Llywodraeth Dorïaidd adweithiol a llwgr yn San Steffan pan ddaw at ddileu anghydraddoldeb a sicrhau tegwch.
Thema Mis Hanes LHDTC+ eleni yw celf. Mae grym celf i herio normau cymdeithasol y mae artistiaid o Gymru wedi gwneud cyfraniad nodedig tuag atyn nhw, wrth gwrs, yn cael ei gydnabod yn eang. Ac mae syniadau a delweddau hoyw, lesbiaidd, traws, cwiar a syniadau a delweddau nad ydyn nhw'n cydymffurfio wedi bod yn rhan o ddiwylliant artistig dros fileniwm, ond mae hanes hir rhagfarn yn aml wedi gyrru artistiaid i guddio eu hysbrydoliaeth, eu neges a'u credoau, a hyd yn oed eu hunaniaeth eu hunain. Rhoddodd weithredu LHDTC+ o ddiwedd y 1960au ymlaen bŵer ac ysgogiad newydd i'r gelfyddyd hon. Ac mae'n rhaid i'n sefydliadau diwylliannol a chelf gyhoeddus Cymru gydnabod a dathlu cyrhaeddiad a grym celf i agor meddyliau, hyrwyddo cynwysoldeb a dathlu amrywiaeth. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau hyn?
Yn ogystal â dathlu yn ystod Mis Hanes LHDTC+, mae'r mis hwn hefyd yn amser i fyfyrio, fel y dywedoch chi, ar y frwydr dros hawliau, cydnabyddiaeth a chydraddoldeb, sy'n parhau yng Nghymru a thu hwnt. Gwyddom y gall gymryd hyd at bedair blynedd mewn rhai rhannau o'r DU i weld arbenigwr rhywedd, ac ar hyn o bryd mae 13,500 o bobl ar y rhestr aros hon. Ond a wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau cyfatebol i Gymru'n unig, ac a allai data ar ddarpariaeth gofal iechyd LHDTC+ yng Nghymru fod ar gael yn ehangach ac yn hygyrch i'r cyhoedd?
Datblygiad arall sy'n peri pryder, fel yr ydym ni wedi clywed gennych chi a Mark Giffard—Tom Giffard, mae'n ddrwg gen i—yw'r cynnydd cyson mewn troseddau casineb LHDTC+ dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi ein dychryn—ac fe wnaethoch chi gyfeirio ato, rwy'n credu—gan yr honiadau brawychus a glywyd yn achos llofruddiaeth Dr Gary Jenkins a laddwyd yn giaidd yma yng Nghaerdydd. Mae'r ystadegau troseddau casineb diweddaraf hefyd yn dangos cysylltiadau clir rhwng cynnydd mewn troseddau casineb a chyfnodau gwahanol o leihau cyfyngiadau symud. Felly, hoffwn wybod sut mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfrif am hyn. A yw'r Llywodraeth wedi neilltuo unrhyw adnoddau, cymorth neu fwy o gyllid i gefnogi dioddefwyr troseddau casineb neu i atal troseddau? Ac a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddarparu amserlen ar gyfer cwblhau'r cynllun gweithredu LHDTC+ a'i gael yn barod, rhywbeth nad oedd yn glir iawn yn ei datganiad, o ystyried y cynnydd pryderus hwn mewn troseddau casineb gwrth-LHDTC+?
Yr arwyddair ar gyfer y mis hanes hwn yw 'mae'r arc yn hir', o'r dyfyniad enwog gan Dr Martin Luther King Jr:
'mae arc y bydysawd moesol yn hir ond mae'n plygu tuag at gyfiawnder.'
Rydym wedi gweld yn llawer rhy aml fod plygu'r arc honno'n fater o ewyllys. Nid yw'n anochel, a rhaid i ni yng Nghymru barhau i sicrhau bod deddfwriaeth a pholisi yn chwarae eu rhan yn y frwydr hir sy'n herio casineb ac erledigaeth ac sy'n creu newid, yn caniatáu cynnydd ac yn creu cydraddoldeb. Diolch.
Diolch. A gaf i ddiolch i Sioned Williams am y cyfraniad angerddol ac emosiynol? Rwy'n croesawu'n fawr eich cefnogaeth a'r ffordd y gallwn ni gydweithio ar achos cyffredin a thir cyffredin o ran hyn. Fe wnaethoch chi godi o'r datganiad a siarad dipyn yn eich cyfraniad am y newid deddfwriaethol a pholisi, ond sonioch chi am bŵer celf hefyd. Dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld newid diwylliannol enfawr o ran cynrychiolaeth pobl LHDTC+ yn y cyfryngau. Pan oeddwn i'n tyfu i fyny yn y gogledd, ni allwn i fyth fod wedi breuddwydio y byddech yn gwylio unrhyw raglen a gweld bod cynrychiolaeth gadarnhaol yn y fan honno. Mae hynny'n bwysig iawn ac ni allwn danbrisio pa mor bwysig yw cael gwelededd ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus, boed hynny'n ddiwylliant a chelf, gwleidyddiaeth neu'r cwbl.
O ran y pwyntiau a wnaethoch chi ynghylch data a darpariaeth, mae'n amlwg nad oes gennyf y wybodaeth honno wrth law, ond rwy'n fwy na pharod i godi hynny yn dilyn hyn a gweld beth y gallwn ni ei wneud i adeiladu ar hynny ac i godi hynny gyda'r Aelod hefyd. O ran y cynllun gweithredu, mae'n cael ei grynhoi a'i goladu, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu dod â hynny gerbron y Senedd hon yn fuan iawn, ond byddaf yn ymdrechu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a pharhau i wneud hynny wrth i ni symud ymlaen, oherwydd, fel y dywedwch chi, rwy'n awyddus iawn i gael y cynllun ar waith ac i ddechrau gweithredu rhai o'r camau hynny. Ond nid ydym ni'n mynd i aros i'r cynllun gael ei gyhoeddi yn unig; rydym yn dal i geisio datblygu nifer o gamau gweithredu a nifer o elfennau o'r cynllun.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at therapi trosi ac rydym wedi ymrwymo'n gryf i fwrw ymlaen â'r rhaglenni hynny ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth. Cyfarfu Jane Hutt a minnau â'r Gweinidog dros Allforio a'r Gweinidog dros Gydraddoldeb, Mike Freer, ychydig cyn y Nadolig i bwysleisio ein pwyntiau ynghylch gwahardd y therapi trosi hwnnw a sut yr oeddem ni eisiau ei weld yn mynd ymhellach, a'n pryderon ynghylch yr elfen o gydsyniad fel rhan o hynny hefyd. Rydym ni'n dal yn awyddus, ar yr un pryd, i gadw llygad ar hwn, i geisio'r pwerau hynny os bydd eu hangen arnom ni, ond ar yr un pryd, edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i weithredu nawr. Rwy'n gobeithio cael cyhoeddiad i Aelodau, efallai, yn ystod Mis Hanes LHDTC+ ar y pwnc hwnnw hefyd, i roi cyhoeddusrwydd i gyhoeddiad na allaf i ei wneud eto. Ond, gobeithio, byddwn yn gallu gwneud rhywbeth mwy erbyn diwedd y mis.
Croesawaf gefnogaeth yr Aelod i hyn ac edrychaf ymlaen at gydweithio, fel y dywedwch chi, i barhau â'r cynnydd hwnnw; nid yw'n anochel ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i barhau â'r arc honno.
Yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae eich hanes eich hun o hyrwyddo cydraddoldeb yn siarad drosto'i hun. I gymuned LHDTC+ Cymru chi yw'r cynghreiriad mwyaf dibynadwy yn y Llywodraeth. Mae eich penderfyniad diweddar i adnewyddu'r rhaglen ariannu cydraddoldeb a chynhwysiant yn enghraifft dda o'ch ymrwymiad i hynny. Gall y Senedd hon hefyd fod yn falch o'i record a'i statws fel y gweithle gorau ar gyfer gweithwyr LHDTC+ yn y wlad, rhywbeth y gwn yr oedd tîm y Comisiwn yn benderfynol o'i gyflawni.
Mae mis hanes LHDTC+ wrth gwrs, yn ymwneud â dathlu cyflawniadau fel y rheini a'r cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud fel cymdeithas, yn ogystal â chofio'r aberth a'r brwydrau a ddaeth â ni i le yr ydym ni heddiw. Ond mae'n bryd pwyso a mesur hefyd, ac edrych ar sut y gallwn ni wneud dyfodol tecach. Felly, ble ydym ni heddiw ar yr arc gyfiawnder honno? Mae dau fater mawr yn awr: arferion trosi ac amddiffyniadau ar gyfer ceiswyr lloches LHDTC+. Mae Llywodraeth y DU wrthi'n ymgynghori ar wahardd therapi trosi ac mae'r ymgynghoriad hwnnw'n dod i ben ddydd Gwener. Mae ymgyrchwyr yn pryderu y gallai ganiatáu i'r rhai a gafodd—a dyfynnaf—'gydsyniad ar sail gwybodaeth' gan eu dioddefwyr i osgoi cyfiawnder. Ni allwn ganiatáu i'r bwlch hwnnw yn y ddeddfwriaeth barhau; ni all pobl gydsynio i gamdriniaeth. Mae'n ymddangos fel y bydd yr Alban yn gweithredu gwaharddiad uniongyrchol a chwbl ar yr arferion hyn, a byddwn yn gobeithio y bydd y Senedd hon a Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr un peth yn wir yma.
O ran ceiswyr lloches, Gweinidog, roedd y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych ddiwedd y llynedd yn tynnu sylw at eich pryderon ynghylch yr amddiffyniad annigonol y mae'n ei gynnig i unigolion LHDTC+. Er iddyn nhw gael profion i brofi eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd, mae ceiswyr lloches yn gweld eu hawliadau'n cael eu gwrthod gan y Swyddfa Gartref fel mater o drefn, yn aml yn anghywir fel mae'n digwydd, oherwydd mae bron i hanner wedyn yn cael eu herio'n llwyddiannus ar apêl. Ac eto, byddai'r gyfraith newydd arfaethedig mewn gwirionedd yn cynyddu'r baich profi—
Joyce, mae angen ichi ddod i ben yn awr.
Mae gen i un frawddeg olaf. Mae cyfunrywioldeb yn parhau'n anghyfreithlon mewn tua 70 o wledydd, ac mae 11 o'r rheini'n dal i weithredu'r gosb eithaf. Pa drafodaethau ydych chi yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i ddod â'r drosedd erchyll honno i ben?
A gaf i ddiolch i Joyce Watson, nid yn unig am ei chyfraniad heddiw, ond ei chyfraniad a'i hanes hir o fod yn gynghreiriad cadarn i'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru a thu hwnt? Na, ni allwn ei wneud hyn ar ein pen ein hunain, mae arnom angen y cynghreiriaid hynny hefyd, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr bopeth y mae Joyce wedi'i wneud yn y lle hwn a thu hwnt hefyd.
Ychydig iawn y gallwn anghytuno ag ef o ran yr hyn a ddywedodd Joyce. Rwy'n rhannu'n llwyr y pryderon ynghylch i ba raddau y mae'r gwaharddiad ar therapi trosi, fel y cynigir yn yr ymgynghoriad, yn mynd rhagddo. Fel y dywedais i wrth Sioned Williams, mae hwn yn bwynt yr ydym ni wedi'i wneud i Lywodraeth y DU, a byddwn ni'n parhau i bwyso ac i edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yng Nghymru o fewn ein pwerau presennol, pe bai angen i ni bwyso am ragor o bwerau i wneud y peth iawn ar gyfer y gymuned LHDTC+ yng Nghymru. Oherwydd rydych chi yn llygad eich lle ynglŷn â'r pryder ynghylch y ffaith na allwch gydsynio i gamdriniaeth. Rydym yn pryderu'n fawr am natur gymhellol therapi trosi hefyd a'r effaith y mae'n ei chael ar fywyd rhywun, eu llesiant corfforol a meddyliol. Ni ellir tanbrisio hynny.
Rwy'n rhannu eich pryderon ynghylch y sefyllfa—rwy'n credu ei fod mewn datganiad a roddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol—o ran sut y caiff ceiswyr lloches LHDTC+ eu trin. Nid yw ynghylch gallu cael asesiad ar y pwynt cyntaf hwnnw yn unig; mewn gwirionedd, rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau yng Nghymru yn ogystal â sicrhau bod ceiswyr lloches LHDTC+ mewn llety priodol pan fyddan nhw'n dod yma hefyd. Mae hynny'n bryder arall. Felly, rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau fel Glitter Cymru i weld sut y gallwn ni ddefnyddio'r dulliau ysgogi datganoledig sydd gennym yma i sicrhau bod pobl LHDTC yn cael eu diogelu ac yn teimlo'n ddiogel yma yng Nghymru.
Efallai y gallwn i ddod i ben ar nodyn ychydig yn fwy cadarnhaol. Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaeth Joyce Watson ynghylch parhau â'r rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant, a gobeithiwn hefyd gyflwyno ein cronfa Pride. Nid yw hynny'n ymwneud â chefnogi digwyddiadau yn unig, ond mae'n cefnogi gwaith LHDTC mewn cymunedau ledled y wlad.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.