Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 2 Chwefror 2022.
Yn dilyn ateb y Prif Weinidog i mi mewn perthynas â threchu tlodi a’r rôl y gall y lwfans cynhaliaeth addysg ei chwarae, ar 14 Rhagfyr, nodais ei fod yn amcangyfrif y byddai cynyddu taliadau'r lwfans cynhaliaeth addysg i £45, yn ogystal â chynyddu’r trothwy i’w wneud yn fwy hygyrch, yn costio £10 miliwn yn fras. Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y cyfyngiadau ar gyllid Llywodraeth Cymru, ond o ystyried yr argyfwng costau byw a’r ffaith ein bod yn gwybod bod teuluoedd â phlant yn fwy tebygol, yn gyffredinol, o fod yn byw mewn tlodi, a allai’r Gweinidog roi sicrwydd i mi, pan fydd cyllid pellach ar gael, y bydd y Llywodraeth yn edrych o ddifrif ar ehangu’r lwfans cynhaliaeth addysg a chynyddu’r taliadau, hyd yn oed os gwneir hynny drwy ddull graddol? Roedd yn gymorth mawr i mi pan oeddwn yn blentyn a gwn y byddai’n gymorth mwy byth i deuluoedd pe bai’n cael ei ehangu ymhellach.