Y Argyfwng Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:35, 2 Chwefror 2022

Wel, mae yna tswnami costau byw yn torri o'n cwmpas ni, onid oes e, Weinidog? Ac unwaith eto, mi fydd awdurdodau lleol, ymhlith eraill wrth gwrs, yn nannedd y storm honno wrth iddyn nhw barhau i ddelio ar un llaw â heriau COVID, tra hefyd nawr yn gorfod camu mewn â chefnogaeth ychwanegol wrth i bobl bwyso'n drymach arnyn nhw am eu gwasanaethau, efallai am nad ydyn nhw'n gallu fforddio talu'r rhent, neu fforddio cynhesu cartrefi, neu fforddio prynu bwyd. Nawr, roedd yr ymateb i'r argyfwng COVID, wrth gwrs, yn un sydyn ac yn un sylweddol iawn, ac fe gafodd awdurdodau lleol Cymru gyllid ychwanegol gennych chi i ymateb i'r pwysau aruthrol hwnnw. Ydych chi'n derbyn ei bod hi'n gwbl bosib y bydd angen yr un math o ymateb i'r argyfwng costau byw, ac, os ydych chi, a allwch chi roi sicrwydd bod eich Llywodraeth chi yn barod i gamu i'r adwy â chefnogaeth ychwanegol i awdurdodau lleol i gwrdd â'r galw ychwanegol fydd arnyn nhw os bydd angen hynny yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf?