Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 2 Chwefror 2022.
Hyfryd, a diolch, Weinidog—rydych wedi dyfalu mai cyfres o gwestiynau ar ddiwygio’r dreth gyngor sydd gennyf; roeddwn wedi gobeithio bod hynny'n weddol amlwg. Fel pob Aelod ar draws y Siambr, rwy'n siŵr, mae gennyf gryn dipyn o ddiddordeb yn nogfen y cytundeb cydweithio rydych wedi ymrwymo iddo gyda Phlaid Cymru, ac ynddo, fel y nodoch chi, ar fater diwygio’r dreth gyngor, mae gennych uchelgais i ddiwygio un o’r ffurfiau mwyaf anflaengar ar drethu sy’n effeithio’n anghymesur ar ardaloedd tlotach o Gymru, ac rydych yn bwriadu ei wneud yn decach. Felly, Weinidog, gan ichi ddisgrifio hyn fel un o’r ffurfiau mwyaf anflaengar ar drethu, pa mor bell y byddwch yn mynd i’w ddiwygio?