Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 2 Chwefror 2022.
Wel, nid wyf am ymddiheuro am fuddsoddi i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol a'r gwaith sydd ei angen ochr yn ochr â hynny, a gwn—. Mae'n ymddangos bod gan Janet Finch-Saunders a minnau safbwyntiau gwahanol ar yr hyn sy'n ddeddfwriaeth angenrheidiol a'r hyn nad yw'n ddeddfwriaeth angenrheidiol, ond mewn perthynas â'r gyllideb ar gyfer y cyfnod sydd i ddod, rydym wedi dyrannu £100 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl, a bydd rhywfaint o hwnnw'n ymgais i gryfhau ein dull ysgol gyfan o sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosibl. Felly, mae iechyd meddwl yn flaenoriaeth bwysig i'r Llywodraeth hon, a byddwch yn gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gyllideb a gyhoeddwyd gennym cyn y Nadolig.