1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2022.
5. Sut mae'r Gweinidog yn monitro gwerth am arian ac effeithiolrwydd gwariant Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth? OQ57544
Telir cost deddfwriaeth o ddyraniadau cyllidebau portffolio, ac mae Gweinidogion yn ystyried costau wrth flaenoriaethu gwariant ar gyfer blwyddyn ariannol. Pan fydd Gweinidog yn cyflwyno Bil, caiff ein dull gweithredu arfaethedig ar gyfer monitro, adolygu a gwerthuso’r polisi ei nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.
Diolch. Fel y gŵyr y Gweinidog, rwy’n gwrthwynebu cyflwyno deddfwriaeth ddiangen yn llwyr—Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 a Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020, i enwi ond dwy. Ar yr ail, nododd y memorandwm esboniadol y byddai’r opsiwn a ffefrir i ddeddfu i ddileu amddiffyniad cosb resymol yng Nghymru yn costio cyfanswm o rhwng £6 miliwn ac £8 miliwn i’n trethdalwyr. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £1,650,098. Daw Adran 1 o’r Ddeddf hon i rym ym mis Mawrth. Nawr, ers i'r ddeddfwriaeth gael Cydsyniad Brenhinol, mae ein gwlad wedi cael ei tharo gan COVID-19. Mae’r effaith ar iechyd meddwl plant yn unig wedi bod yn ddifrifol, ac mae Comisiynydd Plant Cymru wedi gorfod codi ei llais ynglŷn â'r ffaith nad oes lleoedd addas i bobl ifanc mewn argyfwng iechyd meddwl. Felly, mae'n rhaid inni flaenoriaethu cymorth i'r plant sydd, heb unrhyw fai arnynt eu hunain, yn dioddef oherwydd yr ymateb i'r pandemig. O ystyried y pryderon nad oes unrhyw ganolfannau argyfwng iechyd meddwl pwrpasol yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc, a’r ffaith eich bod wedi gwario £1.6 miliwn hyd yn hyn—yn amlwg, mae mwy o arian wedi’i ddyrannu ar gyfer y Bil y soniais amdano—a fyddech yn fodlon cydweithredu â’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i adolygu effeithiolrwydd y gwariant ar ddileu amddiffyniad cosb resymol, a bod yn eithaf radical efallai ac ystyried dargyfeirio rhywfaint o’r cyllid hwnnw i wasanaethau iechyd meddwl rheng flaen i bobl ifanc? Diolch.
Wel, nid wyf am ymddiheuro am fuddsoddi i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol a'r gwaith sydd ei angen ochr yn ochr â hynny, a gwn—. Mae'n ymddangos bod gan Janet Finch-Saunders a minnau safbwyntiau gwahanol ar yr hyn sy'n ddeddfwriaeth angenrheidiol a'r hyn nad yw'n ddeddfwriaeth angenrheidiol, ond mewn perthynas â'r gyllideb ar gyfer y cyfnod sydd i ddod, rydym wedi dyrannu £100 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl, a bydd rhywfaint o hwnnw'n ymgais i gryfhau ein dull ysgol gyfan o sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosibl. Felly, mae iechyd meddwl yn flaenoriaeth bwysig i'r Llywodraeth hon, a byddwch yn gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gyllideb a gyhoeddwyd gennym cyn y Nadolig.
Weinidog, nid wyf yn credu bod angen ichi wrando ar unrhyw bregethau gan y blaid Dorïaidd ynghylch gwastraffu arian; maent yn arbenigwyr ar wneud hynny. Ond Weinidog, fel deddfwrfa ifanc, gyda thua 50 o Ddeddfau ar y llyfr statud, mae'r Senedd mewn sefyllfa wych i sicrhau bod ei holl Ddeddfau yn effeithlon, yn addas i'r diben, ac yn cyflawni'r diben a fwriadwyd. A all y Gweinidog ddarparu gwybodaeth am unrhyw adolygiadau ôl-weithredu o ddeddfwriaeth yn ddiweddar, ac a oedd y costau a'r arbedion a ragwelwyd ar gyfer y Deddfau hynny yn gywir mewn gwirionedd? Diolch yn fawr.
Gallaf. Cyfrifoldeb pob Gweinidog portffolio fydd yr adolygiadau hynny, ond mae gennyf rai yn fy mhortffolio i a fydd yn berthnasol yma. Er enghraifft, rwyf newydd gyhoeddi adolygiad o'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae hynny wedi'i osod mewn deddfwriaeth, y dylid cynnal adolygiad o fewn pum mlynedd o weithrediad y Ddeddf, felly rydym yn sefydlu'r comisiwn ar gyfer y gwaith hwnnw ar hyn o bryd. Rwyf wedi cysylltu â Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch cwmpas y gwaith, a byddem yn ceisio gwneud hynny dros y cyfnod sydd i ddod, gyda'r bwriad o'i gyhoeddi yn hydref 2023. Felly, dyna enghraifft o ble y mae wedi'i nodi mewn deddfwriaeth fod yn rhaid inni gynnal yr adolygiadau hyn, ac rwy'n bwriadu gwneud hynny.
Dylai'r Senedd fod â diddordeb gwirioneddol ym maint adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth a'r modd o'u targedu'n effeithiol, oherwydd nodwn y cynnydd digynsail yn y defnydd o'r broses cydsyniad deddfwriaethol, lle mae adnoddau Llywodraeth Cymru yn cael eu hailgyfeirio tuag at San Steffan yn ychwanegol at yr hyn a geir yma yng Nghymru; yr adnodd ychwanegol sydd ei angen i ymateb i ddeddfwriaeth o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, sy'n parhau; a'r adnodd ychwanegol sydd ei angen i ymateb i ddeddfwriaeth frys mewn ymateb i'r coronafeirws; yn ogystal, rhaid imi ddweud, â'r hyn y gellir ei ystyried yn fusnes rheolaidd deddfwriaeth 'a wnaed yng Nghymru' yn y rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio a'r rheoliadau rheolaidd. Felly, Weinidog: a ydych yn credu bod unrhyw ddadansoddiad cymharol defnyddiol i'w wneud rhwng yr adnoddau a roddir tuag at ddeddfwriaeth, drafftio a pholisi yn San Steffan, neu'n wir yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, o'i gymharu â'r hyn a ddyrennir yma yng Nghymru? Ac a allai'r Gweinidog ddweud wrthym a yw'n teimlo bod budd i ddadansoddiad mwy helaeth a mwy manwl o sut a ble y dyrennir adnoddau deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru? Ac efallai y gallai hi, a Gweinidogion eraill, a'r Cwnsler Cyffredinol, ein cynorthwyo yn y dadansoddiad hwnnw.
Dyna gwestiwn diddorol. Mae'n un y byddaf yn mynd ar ei drywydd gyda chyd-Weinidogion. Mae gennym fwrdd o Weinidogion sy'n gyfrifol am ddeddfwriaeth o fewn eu portffolios sy'n dod at ei gilydd yn aml iawn i drafod cynnydd deddfwriaeth, a chredaf y gallai hwnnw fod yn fforwm defnyddiol i gael rhai o'r trafodaethau hynny. Felly, mae'n gynnig diddorol a byddaf yn sicr yn ei ystyried ymhellach ac yn ei drafod gyda chyd-Weinidogion.