Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 2 Chwefror 2022.
Gallaf. Cyfrifoldeb pob Gweinidog portffolio fydd yr adolygiadau hynny, ond mae gennyf rai yn fy mhortffolio i a fydd yn berthnasol yma. Er enghraifft, rwyf newydd gyhoeddi adolygiad o'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae hynny wedi'i osod mewn deddfwriaeth, y dylid cynnal adolygiad o fewn pum mlynedd o weithrediad y Ddeddf, felly rydym yn sefydlu'r comisiwn ar gyfer y gwaith hwnnw ar hyn o bryd. Rwyf wedi cysylltu â Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch cwmpas y gwaith, a byddem yn ceisio gwneud hynny dros y cyfnod sydd i ddod, gyda'r bwriad o'i gyhoeddi yn hydref 2023. Felly, dyna enghraifft o ble y mae wedi'i nodi mewn deddfwriaeth fod yn rhaid inni gynnal yr adolygiadau hyn, ac rwy'n bwriadu gwneud hynny.