Gwariant ar Ddeddfwriaeth

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:04, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Dyna gwestiwn diddorol. Mae'n un y byddaf yn mynd ar ei drywydd gyda chyd-Weinidogion. Mae gennym fwrdd o Weinidogion sy'n gyfrifol am ddeddfwriaeth o fewn eu portffolios sy'n dod at ei gilydd yn aml iawn i drafod cynnydd deddfwriaeth, a chredaf y gallai hwnnw fod yn fforwm defnyddiol i gael rhai o'r trafodaethau hynny. Felly, mae'n gynnig diddorol a byddaf yn sicr yn ei ystyried ymhellach ac yn ei drafod gyda chyd-Weinidogion.