Cyfiawnder Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:34, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am godi'r mater hwn. Mewn sawl ffordd, mae'r hyn y gallwn ei wneud y tu hwnt i 2024-25 yn dibynnu ar y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael gan Lywodraeth y DU drwy unrhyw adolygiad cynhwysfawr o wariant yn y dyfodol. Ac mae'n wych ein bod, yn y cyfnod gwariant hwn, wedi cael rhagolwg tair blynedd o wariant. Nid ydym wedi cael hynny ers 2017, felly mae hyn wedi ein galluogi ni a sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus i edrych ymlaen ac i gynllunio’n llawer gwell ar gyfer y blynyddoedd i ddod. A chredaf y bydd yr hyn sy'n digwydd y tu hwnt i 2024-25 yn destun trafodaethau pellach y byddwn yn eu cael yn llawer agosach at y dyddiad hwnnw gyda Llywodraeth y DU, ond yn sicr, rwy'n gobeithio y byddem yn cael setliadau ffafriol y tu hwnt i'r cyfnod gwariant presennol.