Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch am godi mater y gronfa gynghori sengl. Mae’r polisi sy'n sail i’r gronfa honno a’r broses o'i rhoi ar waith yn rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ond byddaf yn sicrhau fy mod yn cael sgwrs gyda hi ynglŷn â hynny. Ac rwyf hefyd yn cael cyfle rheolaidd i gyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol, fel y byddwch yn cofio o ychydig yn ôl, a byddaf yn achub ar y cyfle yn un o'r cyfarfodydd hynny sydd i ddod i archwilio eu barn ar y gronfa gynghori sengl a'r hyn y mae'n ei olygu iddynt hwy o ran eu gallu i gefnogi eu trigolion lleol.