Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 2 Chwefror 2022.
Telir cost deddfwriaeth o ddyraniadau cyllidebau portffolio, ac mae Gweinidogion yn ystyried costau wrth flaenoriaethu gwariant ar gyfer blwyddyn ariannol. Pan fydd Gweinidog yn cyflwyno Bil, caiff ein dull gweithredu arfaethedig ar gyfer monitro, adolygu a gwerthuso’r polisi ei nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.