Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch. Credaf eich bod yn nodi pwynt pwysig iawn ac fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i hybu'r defnydd o'n dulliau integredig ar gyfer rheoli plâu er mwyn lleihau'r defnydd o blaladdwyr cemegol. Felly, rydym yn hyrwyddo atebion sy'n seiliedig ar natur, atebion tocsigedd isel a thechnolegau manwl, a dyma'r unig bethau a fydd â gallu i wella bioamrywiaeth, a bydd dulliau integredig ar gyfer rheoli plâu hefyd yn rhan bwysig iawn o'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ond fel y dywedwch, mae pobl heblaw ffermwyr yn defnyddio cemegau yn y ffordd a nodwch, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rheolwyr tir ac unigolion eraill sy'n defnyddio plaladdwyr i fabwysiadu technegau a thechnolegau sy'n darparu ffyrdd amgen o reoli plâu, clefydau a chwyn.