2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2022.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar effaith plaladdwyr ar iechyd gwenyn? OQ57566
Polisi Llywodraeth Cymru yw lleihau i'r lefel isaf sy'n bosibl effaith defnyddio plaladdwyr ar bobl, yr amgylchedd a bywyd gwyllt, gan gynnwys gwenyn, tra'n sicrhau bod plâu, clefydau a chwyn yn cael eu rheoli'n effeithiol.
Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb hwnnw, Weinidog. Mae'r effaith y mae plaladdwyr yn ei chael ar ein pryfed peillio yn bryder gwirioneddol i lawer o fy etholwyr. Mae rôl fawr gan ffermio ffrwythau i lawer yn Nyffryn Clwyd, gan gynnwys eirin Dinbych, y soniaf amdanynt yn aml, a heb wenyn a phryfed peillio eraill, ni fyddai gennym berllannau ffrwythau. Er bod llawer, gan gynnwys yr awdurdodau lleol—ac a gaf fi ddatgan buddiant fel aelod presennol o Gyngor Sir Ddinbych—yn cymryd camau i wneud yr ardal yn gyfeillgar i wenyn, ni waeth faint o flodau gwyllt a geir os yw'r gwenyn yn cael eu lladd gan gemegion. Felly, Weinidog, nid ffermwyr yn unig sy'n defnyddio plaladdwyr, mae llawer o berchnogion cartrefi hefyd yn gwneud hynny. Yn ogystal â'r camau rydych eisoes wedi'u hamlinellu, a wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i godi ymwybyddiaeth o'r broblem, ac a wnewch chi roi cyhoeddusrwydd i ddewisiadau amgen yn lle plaladdwyr cemegol er mwyn sicrhau bod gwenyn a pherllannau'n ffynnu yn Nyffryn Clwyd ac ar draws Cymru?
Diolch. Credaf eich bod yn nodi pwynt pwysig iawn ac fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i hybu'r defnydd o'n dulliau integredig ar gyfer rheoli plâu er mwyn lleihau'r defnydd o blaladdwyr cemegol. Felly, rydym yn hyrwyddo atebion sy'n seiliedig ar natur, atebion tocsigedd isel a thechnolegau manwl, a dyma'r unig bethau a fydd â gallu i wella bioamrywiaeth, a bydd dulliau integredig ar gyfer rheoli plâu hefyd yn rhan bwysig iawn o'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ond fel y dywedwch, mae pobl heblaw ffermwyr yn defnyddio cemegau yn y ffordd a nodwch, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rheolwyr tir ac unigolion eraill sy'n defnyddio plaladdwyr i fabwysiadu technegau a thechnolegau sy'n darparu ffyrdd amgen o reoli plâu, clefydau a chwyn.