Gwasanaethau Fasgiwlar

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:21, 2 Chwefror 2022

Mae yna dystiolaeth bendant a chynyddol fod ad-drefnu'r gwasanaethau fasgwlar wedi arwain at ddirywiad sylweddol yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl y gogledd. Mi fyddai wedi gwneud synnwyr i leoli'r hwb newydd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor—dyna fyddai ad-drefnu synhwyrol wedi'i wneud, sef adeiladu ar yr uned o safon ardderchog oedd yno. Fel rydych chi'n ei ddweud, mae yna adolygiad arall ar y gweill, ond mae hwn yn cael ei gynnal gan yr un un corff sydd wedi argymell y model ad-drefniant gwallus yn y lle cyntaf, ac felly, dydy hynny ddim yn ennyn llawer o hyder. A wnewch chi felly, fel y Gweinidog sy'n cynrychioli'r gogledd, ofyn i'r Gweinidog iechyd ymyrryd yn uniongyrchol yn y sefyllfa a chynnal ymchwiliad gweinidogol ddaw ag argymhellion clir gerbron er mwyn tawelu ofnau cynyddol fy etholwyr i yn Arfon?