Gwasanaethau Fasgiwlar

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:22, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym yn aros, wrth gwrs, am ran dau o adolygiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon. Deallaf fod y bwrdd iechyd wedi'i gael yn ddiweddar ar ffurf ddrafft, ac rydym yn disgwyl iddo gael ei gyhoeddi'n fuan. Rwy'n credu ei bod yn werth aros am yr adolygiad hwnnw. Credaf fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud yn glir iawn ei bod yn disgwyl i welliannau gael eu gwneud ac i'r gwasanaeth hwn fodloni'r disgwyliadau, ac y bydd yn wasanaeth blaenllaw yng Nghymru. Felly, credaf y byddai'n werth aros am yr adroddiad a gwn fod y Gweinidog yn monitro'r sefyllfa'n agos iawn wrth gwrs.