Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 2 Chwefror 2022.
Weinidog, croesawodd llawer o bobl yng ngogledd Cymru newyddion y byddai metro yn cael ei adeiladu. Wrth gwrs, roedd yn eich maniffesto yn 2016, mae bellach yn 2022, ac nid oes llawer o gynnydd wedi'i wneud o hyd yng ngogledd Cymru. Clustnodwyd £750 miliwn ar gyfer de Cymru, o gymharu â dim ond £50 miliwn yn y gogledd. Nawr, fel Gweinidog gogledd Cymru, bydd pobl yn y rhanbarth yn disgwyl i chi fod yn llais gogledd Cymru o amgylch bwrdd y Cabinet, gan sicrhau eich bod yn denu adnoddau cymesur fan lleiaf i'r rhanbarth o gymharu â'r rhai a werir mewn mannau eraill yng Nghymru. A allwch ddweud wrthym sut y mae'r mecanwaith hwnnw'n gweithio a pha sicrwydd rydych yn ei gael gan eich cyd-Aelodau yn y Cabinet fod buddsoddiad cymesur yng ngogledd Cymru a'u bod yn mynd i'r afael â'r problemau a'r heriau sydd gennym yng ngogledd Cymru ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus?