2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 2 Chwefror 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
Yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog gogledd Cymru, a allwch ddweud wrthym pam y mae gogledd Cymru yn cael cyn lleied o fuddsoddiad yn eu metro o'i gymharu â de Cymru?
Wel, fel y gwyddoch, credaf ein bod yn gwneud yn dda iawn yn awr gyda'n gwaith cwmpasu ar fetro gogledd Cymru, a chredaf ein bod yn gweld cyllid sylweddol ar gyfer y metro. Cefais gyfarfod â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ei gylch, a chredaf y bydd o fudd mawr i'r rhanbarth. Yn amlwg, mae metro de Cymru ymhell ar y blaen i fetro gogledd Cymru, ond os oes angen rhagor o arian wrth inni fynd drwy bob cam, gwn fod y Dirprwy Weinidog ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau ariannu a'r hyn sydd angen ei wneud nesaf ar ddatblygu'r metro.
Weinidog, croesawodd llawer o bobl yng ngogledd Cymru newyddion y byddai metro yn cael ei adeiladu. Wrth gwrs, roedd yn eich maniffesto yn 2016, mae bellach yn 2022, ac nid oes llawer o gynnydd wedi'i wneud o hyd yng ngogledd Cymru. Clustnodwyd £750 miliwn ar gyfer de Cymru, o gymharu â dim ond £50 miliwn yn y gogledd. Nawr, fel Gweinidog gogledd Cymru, bydd pobl yn y rhanbarth yn disgwyl i chi fod yn llais gogledd Cymru o amgylch bwrdd y Cabinet, gan sicrhau eich bod yn denu adnoddau cymesur fan lleiaf i'r rhanbarth o gymharu â'r rhai a werir mewn mannau eraill yng Nghymru. A allwch ddweud wrthym sut y mae'r mecanwaith hwnnw'n gweithio a pha sicrwydd rydych yn ei gael gan eich cyd-Aelodau yn y Cabinet fod buddsoddiad cymesur yng ngogledd Cymru a'u bod yn mynd i'r afael â'r problemau a'r heriau sydd gennym yng ngogledd Cymru ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus?
Rydych yn llygad eich lle, rwy'n sicrhau ein bod yn cael ein cyfran deg o gyllid yng ngogledd Cymru. Mae'n rhaid imi fod yn ofalus iawn, oherwydd yn amlwg rwy'n Aelod y Senedd dros Wrecsam, ac yn amlwg, mae Wrecsam yn rhan bwysig iawn o fetro gogledd Cymru. Fel y dywedaf, mae cynlluniau metro de Cymru ymhell ar y blaen. Roeddech yn iawn, 2016 oedd hi—. Cofiaf ein bod wedi ymrwymo i gyflwyno cynlluniau ar gyfer metro gogledd Cymru yn ystod 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth 2016, ac fe wnaethom hynny.
Fe fyddwch yn ymwybodol fod pandemig wedi bod sydd wedi mynd â llawer iawn o adnoddau, yn amlwg, ac nid ydym mor bell ymlaen ag y byddem wedi gobeithio bod gyda metro gogledd Cymru, ond mae'n dda gweld y cynlluniau yn awr a'r gwaith i sicrhau cysylltedd rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, sydd mor bwysig i'n rhanbarth. Ond fel y dywedais, mae'r Gweinidog yn edrych ar opsiynau ariannu ar hyn o bryd a pha feysydd y bydd angen canolbwyntio arnynt yn awr i sicrhau bod y metro'n datblygu.
Chwe blynedd, cynnydd araf ac mae angen inni ei gael yn ôl ar y llwybr iawn, os esgusodwch y chwarae ar eiriau. Un o'r pethau eraill sydd wedi bod yn methu ers amser maith yng ngogledd Cymru, wrth gwrs, yw gwasanaethau iechyd meddwl. Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei roi dan fesurau arbennig oherwydd methiannau yn ei wasanaethau iechyd meddwl yn ôl yn 2015. Saith mlynedd yn ddiweddarach ac mae gwasanaethau iechyd meddwl yn dal i fod yn destun mesurau arbennig, ac mae pawb yn cydnabod bod angen eu gwella'n sylweddol. Pam ei bod yn cymryd cymaint o amser i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â phroblemau yng ngwasanaethau cyhoeddus gogledd Cymru, megis gwasanaethau iechyd meddwl, a pham ei bod hi'n cymryd llai o amser i chi ddatrys problemau mewn mannau eraill yng Nghymru? Onid yw hyn yn fwy o dystiolaeth fod gogledd Cymru yn eilradd, yn fan dall i'r rhan fwyaf o'r bobl yn eich Cabinet? Nid wyf yn dweud mai chi sydd ar fai o reidrwydd, oherwydd rydych chi'n un o'r rhai sy'n cynrychioli gogledd Cymru, ond onid yw'n awgrymu i chi fod tystiolaeth glir nad yw gogledd Cymru'n cael digon o sylw gan y Llywodraeth hon yng Nghymru?
Nac ydy, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth rydych chi'n hoffi ei ddweud, mai felly y mae hi. Nid yw'n wir o gwbl—
Pam y mae'n cymryd saith mlynedd, saith mlynedd i'w ddatrys?
Nid wyf yn credu o gwbl fod gogledd Cymru yn eilradd i unrhyw un o fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet. Yn amlwg, rwyf fi yno i sicrhau nad yw hynny'n digwydd, ond rwy'n eistedd wrth fwrdd y Cabinet, yn wahanol i chi, a gallaf eich sicrhau nad yw'n fan dall o gwbl.
Llefarydd Plaid Cymru, nawr. Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i gymryd y cyfle yma hefyd i ddiolch i Cefin Campbell am ei waith yn y rôl yma o'm mlaen i a phob lwc iddo fo yn ei rôl newydd?
Dwi eisiau gofyn i'r Gweinidog, os gwelwch yn dda—. Mae yna lawer o sylw wedi cael ei roi i'r argyfwng costau byw sydd yn wynebu cynifer o bobl heddiw. Mae'n werth cofio bod y cynnydd yn y costau egni a thanwydd hefyd yn cael effaith ar ein sector amaeth, sydd yn ei dro yn cael ei adlewyrchu yn y farchnad. Mewn arolwg gan y Farmers Weekly, nododd 57 y cant o ffermwyr eu bod nhw'n disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn eu costau dros y flwyddyn nesaf. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio nad yw prisiau ynni cynyddol yn gynaliadwy i'r sector amaeth. Er enghraifft, mae pris disel coch wedi cynyddu bron 50 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae cost amoniwm nitrad wedi cynyddu bron i 200 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf. Weinidog, nid argyfwng sydd yn gyfyngedig i ffermwyr ydy hyn; mae'r gost ychwanegol yma o'r fferm yn cario ymlaen i'r prosesu ac yna i'r silffoedd yn yr archfarchnad. Pa gamau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i geisio lleihau y bwrdwn ychwanegol yma ar ffermwyr?
Diolch a hoffwn groesawu Mabon ap Gwynfor i'w rôl newydd. Rydych yn llygad eich lle—mae costau byw yn effeithio ar bawb. Cawsom gyfarfod grŵp rhyngweinidogol ddydd Llun gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a fy swyddogion cyfatebol o’r Alban a Gogledd Iwerddon, ac un o’r meysydd y canolbwyntiais arnynt, lle rydym wedi gweld cynnydd sylweddol, oedd gwrtaith i’n ffermwyr, oherwydd mae’n amlwg fod pris popeth wedi codi. Felly, roeddem yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr eu bod yn ceisio gwneud rhywbeth ynghylch cymorth pellach. Ond rwy’n credu mai un o'r meysydd y gallaf wneud gwahaniaeth ynddo, oherwydd yn amlwg rydym wedi gweld llawer mwy o alw ar ein gwasanaethau iechyd meddwl gan ein ffermwyr, yw drwy sicrhau fy mod yn cefnogi ein helusennau iechyd meddwl. Ac fe wnaethom lansio FarmWell Cymru yn ystod y pandemig COVID-19, oherwydd, unwaith eto, gwelsom gynnydd sylweddol yno. Ond rwy’n credu ei bod yn wirioneddol hanfodol fod pob adran ar draws Whitehall yn cydnabod bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb.
Diolch yn fawr iawn i’r Gweinidog, a dwi’n siŵr eich bod chithau, fel minnau, wedi mwynhau brecwast efo’r Undeb Amaethwyr Cymru a oedd yn casglu pres i’r DPJ Foundation yn ddiweddar iawn, sy’n gwneud gwaith da yn y maes iechyd meddwl hwnnw.
Mae’r cynnydd yma yn y costau mewnbwn dros y misoedd diwethaf yn ychwanegu at broblem fwy hirdymor sy’n wynebu ein hamaethwyr. Dyma ddarlun i chi o sut mae’r costau wedi bod yn cynyddu: nôl yn 1970, roedd angen gwerthu tua 163 oen er mwyn prynu tractor newydd. Erbyn 2020, roedd angen gwerthu 864 o ŵyn er mwyn cael tractor newydd. Mae hyn yn naturiol yn golygu bod nifer o ffermwyr, yn enwedig y ffermydd llai sydd yn britho cefn gwlad Cymru, yn gorfod defnyddio peiriannau ac isadeiledd hŷn sydd yn aml bellach ddim yn addas i'w pwrpas.
Ar ben hyn, wrth gwrs, mae disgwyl iddyn nhw rŵan ddatblygu mwy o storfeydd slyri i ateb y rheoliadau NVZ newydd rydych chi wedi'u rhoi arnyn nhw. Pan gyflwynwyd y rheoliadau NVZ yng Ngogledd Iwerddon, rhoddodd y Llywodraeth yno £150 miliwn i ariannu’r gwaith cyfalaf angenrheidiol. Hyd yma, dim ond £11.5 miliwn o bres RDP Cymru sydd wedi cael ei wario ar waith cyfalaf yn ei gyfanrwydd, ac mae data gan NFU Cymru yn dangos bod yn dal i fod angen gwario hyd at £272 miliwn o arian RDP erbyn diwedd 2023.
Ydych chi, Weinidog, yn cytuno mai un datrysiad posib ydy defnyddio’r arian RDP yma sydd yn weddill er mwyn helpu amaethwyr i adeiladu a gwella isadeiledd eu ffermydd, yn ogystal â helpu busnesau a chontractwyr cefn gwlad? Byddai hyn, felly, yn galluogi buddsoddiadau mewn peiriannau ac isadeiledd newydd a fyddai’n cynyddu effeithlonrwydd, lleihau effaith amgylcheddol a gwella diogelwch gan sicrhau hyfywedd y diwydiant.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol nad oes gennym y parthau perygl nitradau mwyach; mae gennym reoliadau llygredd amaethyddol ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn aros am ddyfarniad cyfredol y llys.
Rhoddais gyllid sylweddol—roedd oddeutu £44 miliwn, rwy’n credu—i geisio gweithio gyda’r sector amaethyddol ar wella darpariaethau slyri. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y rhaglen datblygu gwledig o fudd i'n cymunedau gwledig wrth gwrs—dyna yw ei diben. A dylai fod ar gyfer pethau fel seilwaith er mwyn ein helpu gyda'r argyfwng newid hinsawdd. Felly, rwy’n edrych ar ba gyllid sydd ar ôl yn y rhaglen datblygu gwledig. Rwyf hefyd yn aros am gyngor gan swyddogion am raglen olynol yn lle'r rhaglen datblygu gwledig. Felly, mae’r rhain yn bethau y byddaf yn sicr yn eu hystyried yn rhan o hynny.