Gwasanaethau Fasgiwlar

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:24, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y dywedais yn fy ateb cynharach i Siân Gwenllian, credaf ein bod yn disgwyl y bydd yr adroddiad, ail ran yr adolygiad, yn cael ei gyhoeddi'n fuan, ac wrth ddweud 'yn fuan', yr hyn a olygaf yw'r wythnos hon hyd yn oed. Felly, credaf ei bod yn iawn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol aros i'r adroddiad hwnnw ddod i law, ac yna, yn amlwg, yn fy rôl fel Gweinidog gogledd Cymru, gallwn ofyn am gyfarfod brys gyda hi ynghylch yr argymhellion a ddaw gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon.