Gwasanaethau Fasgiwlar

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 2:23, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw, ac fel y gwyddom, codwyd y mater gyda'r Prif Weinidog ddoe hefyd fel rhan o gwestiynau'r Prif Weinidog, ac mae pryder trawsbleidiol yn ei gylch yn y Siambr. Yn ei ymateb ddoe, amlinellodd y Prif Weinidog na fyddai'n cefnogi ymchwiliad cyhoeddus, oherwydd yr amser y gallai ei gymryd, a byddai'n ystyried na fyddai hynny er budd gorau cleifion yng ngogledd Cymru, sydd efallai'n sylw teg. Ond yng ngoleuni hyn, Weinidog, ac yn eich rôl fel Gweinidog gogledd Cymru, a chlywed yr hyn rydych newydd ei grybwyll ynghylch aros am ganlyniadau gwaith pellach, a fyddech yn ystyried rhoi camau brys ar waith i weld y mater hwn yn cael ei ddatrys ac i gleifion yng ngogledd Cymru gael y driniaeth orau bosibl? A oes unrhyw beth y gallwch ei wneud ar frys i ddatrys y mater hwn?