Rasio Milgwn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:37, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Yn fy rhanbarth i mae’r trac rasio milgwn olaf sy'n weddill yng Nghymru. Mae'r trac hwn hefyd yn annibynnol, sy'n golygu nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw ofynion rheoleiddio na thrwyddedu. Fel ag y mae, nid oes gofyniad i filfeddyg fod yn bresennol nac i oruchwylio lles. Dywed Hope Rescue eu bod, dros y pedair blynedd ddiwethaf, wedi derbyn 200 o filgwn o’r trac hwn—ac roedd 40 o’r rhain wedi dioddef anafiadau. Maent yn ofni y bydd y nifer yn cynyddu pan ddaw'n bryd trwyddedu'r trac yn ddiweddarach eleni. Dim ond wyth gwlad yn y byd sy’n dal i ganiatáu rasio milgwn. Weinidog, onid yw’n bryd inni wneud yr un peth a gwahardd y gweithgaredd hwn ar sail lles anifeiliaid?