Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch. Mae hwn yn rhywbeth rwy'n edrych yn fanwl iawn arno. Cefais gyfarfod ddoe gyda Jane Dodds, ac fe fyddwch yn ymwybodol ei bod yn gredwr cryf iawn yn yr hyn rydych newydd ei awgrymu, ac mae'n rhywbeth rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych arno. Rwy'n gobeithio cael cyfarfod gyda Hope Rescue; byddwn yn falch iawn o glywed eu safbwyntiau. Yn amlwg, maent wedi rhoi'r gorau i fod yn bresennol wrth y trac rasio—roeddent yno am sawl blwyddyn rwy'n credu. Rwyf hefyd yn bwriadu gofyn i Fwrdd Milgwn Prydain am gyfarfod i weld beth arall y gallwn ei wneud wedyn. Yn amlwg, pe baem yn edrych ar wahardd rasio milgwn, byddai'n rhaid inni edrych ar dystiolaeth, ac ymgynghoriad. Bydd y cyfan yn cymryd peth amser, ac yn amlwg, byddai'n rhaid bod capasiti deddfwriaethol ar gael imi allu gwneud hynny. Ond mae'n sicr yn rhywbeth—. Ac fe sonioch chi am rywbeth ar y diwedd nad wyf ond wedi'i ddysgu yn ddiweddar, sef mai dim ond wyth gwlad yn y byd sy'n dal i ganiatáu rasio milgwn, ac rydym ni'n un ohonynt.