Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 2 Chwefror 2022.
Chwe blynedd, cynnydd araf ac mae angen inni ei gael yn ôl ar y llwybr iawn, os esgusodwch y chwarae ar eiriau. Un o'r pethau eraill sydd wedi bod yn methu ers amser maith yng ngogledd Cymru, wrth gwrs, yw gwasanaethau iechyd meddwl. Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei roi dan fesurau arbennig oherwydd methiannau yn ei wasanaethau iechyd meddwl yn ôl yn 2015. Saith mlynedd yn ddiweddarach ac mae gwasanaethau iechyd meddwl yn dal i fod yn destun mesurau arbennig, ac mae pawb yn cydnabod bod angen eu gwella'n sylweddol. Pam ei bod yn cymryd cymaint o amser i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â phroblemau yng ngwasanaethau cyhoeddus gogledd Cymru, megis gwasanaethau iechyd meddwl, a pham ei bod hi'n cymryd llai o amser i chi ddatrys problemau mewn mannau eraill yng Nghymru? Onid yw hyn yn fwy o dystiolaeth fod gogledd Cymru yn eilradd, yn fan dall i'r rhan fwyaf o'r bobl yn eich Cabinet? Nid wyf yn dweud mai chi sydd ar fai o reidrwydd, oherwydd rydych chi'n un o'r rhai sy'n cynrychioli gogledd Cymru, ond onid yw'n awgrymu i chi fod tystiolaeth glir nad yw gogledd Cymru'n cael digon o sylw gan y Llywodraeth hon yng Nghymru?