Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Diolch i Peredur Owen Griffiths am godi'r mater hwn, sy'n fater pwysig i lawer ohonom yn y Senedd. Fel y clywsoch, mae'r trac yng Nghaerffili yn brolio bod ganddo un o'r troadau mwyaf siarp sydd gan unrhyw drac rasio, ac rwyf am ddarllen rhywbeth i chi o'u llenyddiaeth. Maent yn dweud am y troad hwn yn eu trac rasio:
'mae milgwn yn aml yn hedfan i mewn i'r gornel gyntaf yn llawer rhy gyflym i wneud y tro. Y gorau yw'r ci, y cyflymaf y cyrhaedda'r troad cyntaf a'r mwyaf o drwbl a ddaw i'w ran.'
Ac rwyf am orffen y dyfyniad yn y fan honno. Bydd cynlluniau i ymestyn y trac yn cynyddu rasio yng Nghaerffili bedair gwaith, o un ras yr wythnos i bedair. A hyd yn oed yn 2020, pan gyfyngwyd yn sylweddol ar rasio oherwydd COVID, ar draws traciau a reoleiddir y DU, dioddefodd 3,575 o filgwn anafiadau difrifol, a bu farw 401 o gŵn. Nid yw hon yn gamp gwylwyr rydym am ei chael yng Nghymru. Ac mae'r rhain yn cynnwys traciau Bwrdd Milgwn Prydain, felly rwy'n dod yn ôl at Natasha Asghar a dweud, 'O ddifrif, a ydym eisiau gweld cŵn yn cael eu hanafu, ac yn marw, hyd yn oed ar draciau a reoleiddir?' O gofio ein bod yn gwybod nad yw rheoleiddio'n atal milgwn rhag marw a chael eu hanafu—ac rwy'n falch o glywed eich bod yn barod i gyfarfod â Hope Rescue—tybed a fyddech yn cytuno â mi fod pryderon difrifol ynghylch traciau a reoleiddir hyd yn oed. Diolch yn fawr iawn.