Rasio Milgwn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:43, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn cytuno â Jane Dodds. Ac fel y dywedais, mae rhai o'r ffigurau—ac rydych newydd roi ystadegau yn awr a gwybodaeth am y trac—yn gwneud imi bryderu'n fawr. Rwyf wedi cael dau gyfarfod gyda fy swyddogion i drafod hyn, ac rwyf am sicrhau'r Aelodau ei fod yn rhywbeth rwy'n rhoi ystyriaeth ddifrifol iddo, fy mod yn bryderus iawn yn ei gylch, ac fe gawn weld beth y gallwn ei wneud i edrych—. Fel y dywedwch, nid yw'n ymwneud â rheoleiddio yn unig, ond byddwn yn edrych o fewn y cynllun lles anifeiliaid i Gymru ar gyfer tymor y Llywodraeth hon. Er ei bod yn rhaglen bum mlynedd, mae rasio milgwn yn rhywbeth rwyf am ei ystyried yn y rhan gyntaf o dymor y Senedd.