Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:00, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym yn edrych ar gamau gweithredu a allai wella llwybrau tramwy cyhoeddus. Felly, gallai hynny olygu bod cyfleoedd i ffermwyr uwchraddio llwybrau troed i fod yn llwybrau beicio neu lwybrau ceffylau, er enghraifft, neu yn wir, newid y seilwaith ategol, fel y mathau o gatiau, neu gamfeydd. Nod y cynllun fydd cynyddu cyfran y llwybrau tramwy cyhoeddus sy’n agored, yn hawdd i’w defnyddio gyda digon o arwyddion, a chan fod dros ddwy ran o dair o lwybrau tramwy cyhoeddus ar dir fferm, bydd gwella llwybrau tramwy cyhoeddus presennol y tu hwnt i’r gofynion cyfreithiol yn galluogi ffermwyr i gyfrannu ymhellach at iechyd a ffyniant ein gwlad, gan ddarparu gwell mynediad hefyd i'n hardaloedd gwledig diwylliannol a threftadaeth. Felly, er mwyn cael y budd mwyaf, nod y cynllun fydd cefnogi blaenoriaethau cymunedau lleol drwy gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn y cynlluniau gwella llwybrau tramwy a'n fforymau mynediad lleol.