Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 2:59, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi i nodi'r ffaith nad yw hawliau tramwy cyhoeddus ar hyn o bryd yn rhan o'n gwaith trawsgydymffurfio presennol ar gyfer cynllun amaethyddol presennol Llywodraeth Cymru. Pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud hawliau tramwy cyhoeddus yn rhan o'n gwaith trawsgydymffurfio, byddai'n rhoi cymhelliad go iawn i'r gymuned ffermio agor a chynnal eu hawliau tramwy cyhoeddus fel eu bod o safon lawer gwell, er mwyn cael eu taliad blynyddol gan Lywodraeth Cymru. A wnaiff y Gweinidog ystyried hyn wrth wneud cynlluniau ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy? Credaf y gallai sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r gymuned ffermio a cherddwyr sy'n mwynhau ein cefn gwlad bendigedig ledled Cymru. Diolch.