Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 2 Chwefror 2022.
Nid wyf yn credu o gwbl fod gogledd Cymru yn eilradd i unrhyw un o fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet. Yn amlwg, rwyf fi yno i sicrhau nad yw hynny'n digwydd, ond rwy'n eistedd wrth fwrdd y Cabinet, yn wahanol i chi, a gallaf eich sicrhau nad yw'n fan dall o gwbl.