Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i gymryd y cyfle yma hefyd i ddiolch i Cefin Campbell am ei waith yn y rôl yma o'm mlaen i a phob lwc iddo fo yn ei rôl newydd?
Dwi eisiau gofyn i'r Gweinidog, os gwelwch yn dda—. Mae yna lawer o sylw wedi cael ei roi i'r argyfwng costau byw sydd yn wynebu cynifer o bobl heddiw. Mae'n werth cofio bod y cynnydd yn y costau egni a thanwydd hefyd yn cael effaith ar ein sector amaeth, sydd yn ei dro yn cael ei adlewyrchu yn y farchnad. Mewn arolwg gan y Farmers Weekly, nododd 57 y cant o ffermwyr eu bod nhw'n disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn eu costau dros y flwyddyn nesaf. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio nad yw prisiau ynni cynyddol yn gynaliadwy i'r sector amaeth. Er enghraifft, mae pris disel coch wedi cynyddu bron 50 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae cost amoniwm nitrad wedi cynyddu bron i 200 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf. Weinidog, nid argyfwng sydd yn gyfyngedig i ffermwyr ydy hyn; mae'r gost ychwanegol yma o'r fferm yn cario ymlaen i'r prosesu ac yna i'r silffoedd yn yr archfarchnad. Pa gamau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i geisio lleihau y bwrdwn ychwanegol yma ar ffermwyr?