Cysylltedd Trafnidiaeth

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:46, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Mae adeiladu cysylltedd yn ymwneud â llunio ac adeiladu rhwydweithiau trafnidiaeth sy'n ymateb i anghenion ein cymunedau. Golyga hynny fod angen inni reoleiddio'r diwydiant bysiau mewn ffordd sy'n rhoi rhwydweithiau ac angen cymunedol wrth wraidd ein penderfyniadau. Ond Weinidog, gwyddom fod y rheoliadau presennol a gyflwynwyd o dan Lywodraeth Thatcher wedi'u seilio ar elw yn unig. Maent yn atal croes-sybsideiddio llwybrau ac yn arwain at ddarparwyr yn defnyddio'r awdurdodau cystadlu i gau llwybrau cystadleuwyr. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog, felly, a ydych yn cytuno â mi y dylai ail-reoleiddio'r diwydiant bysiau fod ar frig ein hagenda, a phan edrychwn ar y gwaith hwnnw, y dylem ystyried cynrychiolwyr gweithwyr bysiau, fel undeb Unite, lle rwy'n datgan buddiant fel aelod? Dylent gael rhan yn hyn, a dylem wrando arnynt ac ar eu hymgyrch 'cyrraedd adref yn ddiogel', sy'n hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth hyfyw i weithwyr yn yr economi nos.