Cysylltedd Trafnidiaeth

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:47, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Rydym yn croesawu ymgyrch 'cyrredd adref yn ddiogel' undeb Unite, a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a'n cwmnïau bysiau wrth gwrs i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n fwy diogel ac yn fwy deniadol yn hwyr gyda'r nos. Fel y gwyddoch, rydym yn bwriadu cyflwyno Bil bysiau newydd yn ystod tymor y Senedd hon, a fydd yn cynnwys pwerau newydd i awdurdodau lleol fasnachfreinio gwasanaethau bysiau ledled Cymru i ddarparu rhwydwaith bysiau mwy sefydlog, hygyrch, deniadol ac integredig i deithwyr. Credaf y byddwn yn gweithio'n galed iawn i drawsnewid ansawdd teithio ar fysiau a threnau ledled Cymru, a byddwn yn parhau i ddarparu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer gwella hygyrchedd a diogelwch arosfannau bysiau, oherwydd mae hwnnw'n amlwg yn faes sy'n peri pryder.