Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 2 Chwefror 2022.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr a sefydliadau bwyd cymunedol i leihau gwastraff ym mhob rhan o'r gadwyn cyflenwi bwyd, o'r fferm i'r fforc. Mae hyn yn helpu i gyflawni nodau allweddol eraill, gan gynnwys haneru gwastraff bwyd erbyn 2025 a'r effaith ganlyniadol ar leihau allyriadau newid hinsawdd.