Defnyddio Bwyd yn Effeithlon

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:52, 2 Chwefror 2022

Diolch am eich ateb. Mae FareShare Cymru wedi dathlu dengmlwyddiant yn ddiweddar, ac mae eu hangen nhw nawr yn fwy nag erioed, byddwn i'n dweud. Un agwedd ar eu gwaith nhw yw rhedeg y gronfa Surplus with Purpose Cymru. Bwriad y gronfa—sy'n cael ei hariannu gan y Llywodraeth, er tegwch—yw i weithio gyda busnesau bwyd a ffermwyr i atal gwastraff bwyd drwy dalu costau cynaeafu, pecynnu, rhewi, cludo, beth bynnag sydd ei angen er mwyn sicrhau bod unrhyw fwyd sydd dros ben yn cael ei ddargyfeirio i'r rhai sydd ei angen. Mae dyddiad cau ymgeisio i'r gronfa yna yn disgyn ddiwedd y mis yma, felly gaf i ofyn i chi, fel y Gweinidog sy'n gweithio agosaf gyda busnesau bwyd a'r sector amaeth, i wneud ymdrech arbennig yn yr wythnosau olaf yma i hyrwyddo'r gronfa ymhlith y rhai rydych chi'n ymwneud â nhw? A gaf i hefyd, efallai yr un mor bwysig os nad yn bwysicach, ofyn i chi gydweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd er mwyn sicrhau fod y gronfa allweddol yma yn gallu parhau y flwyddyn nesaf, gan ei fod, wrth gwrs, wrth daclo gwastraff bwyd, yn troi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol?