Cronfa Her Ddatgarboneiddio a COVID

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:01, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, gallaf roi sicrwydd i chi fod pob cais yn cael ei ystyried yn gyfartal. Cawsom 39 o geisiadau, a bydd cyllid, fel y dywedaf, yn cael ei ddarparu ar sail y meini prawf a nodais yn fy ateb gwreiddiol i chi. Fy nealltwriaeth i yw nad yw'n wir o gwbl y byddai ceisiadau gan gwmnïau mwy yn cael eu hystyried â mwy o ffafriaeth. Roedd yn fater a oedd yn ymwneud, fel y dywedais, ag ynni a dal carbon. Mae a wnelo â thwf gwyrdd hefyd, ac edrych ar ddatgarboneiddio logisteg. Mae bwyd a diod yn sector â blaenoriaeth, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn ei helpu i adfer yn sgil y pandemig. Ond os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf os oes ganddo bryder penodol, byddwn yn fwy na pharod i ymchwilio i'r mater ar ei ran.