Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch i'r Gweinidog. Ac mae'n rhaid imi ddweud, rwyf wrth fy modd pan ddaw cynllun at ei gilydd. Gofynnais i reolwyr busnes ddydd Mawrth ofyn i’w Haelodau a’u Gweinidogion am gwestiynau ac atebion byr, cryno, ac rwyf wedi gweld hynny ar waith yn y sesiwn gwestiynau flaenorol. Deuawd ardderchog o Weinidogion yn rhoi atebion cryno ac uniongyrchol, a chwestiynau cryno gwych gan yr Aelodau hefyd. Ac fe wnaethom ni chwistrellu ychydig o gyflymder i'n cwestiynau, sy'n braf ei weld.