Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 2 Chwefror 2022.
Byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Fe gyfeirioch chi at FareShare Cymru, ac maent wedi arbed 819 tunnell o fwyd dros ben rhag cael ei wastraffu. Mae hynny'n ddigon i ddarparu bron i 3 miliwn o brydau bwyd mewn blwyddyn yn unig. Felly, gallwn weld y gwaith enfawr sydd wedi'i wneud. Cafodd y prydau hynny eu hanfon at lochesi i bobl ddigartref, clybiau brecwast ysgolion a chanolfannau cymunedol, felly mae'n bwysig iawn. Byddwn yn hapus iawn i weithio i hyrwyddo hynny dros yr wythnosau nesaf, a byddaf yn sicr yn cael trafodaeth gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, fel rydych yn gofyn.