3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am daliad y cynllun cymorth tanwydd gaeaf? TQ594
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Mae taliad cynllun cymorth tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru yn cael ei ddyblu o £100 i £200 wrth i’r argyfwng costau byw waethygu. Mae datganiad ysgrifenedig wedi’i gyhoeddi i fynd gyda fy nghyhoeddiad.
Diolch, ac fe'i darllenais ychydig eiliadau yn ôl. Ond ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe fod Llywodraeth Cymru wedi dyblu taliad y cynllun cymorth tanwydd gaeaf i £200 ac wedi ymestyn y dyddiad cau i wneud cais i 28 Chwefror, cysylltodd cynrychiolwyr o Gynghrair Tlodi Tanwydd Cymru â mi fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, yn croesawu'r newyddion i'r rheini sy'n gymwys. Fodd bynnag, maent yn cydnabod na fydd yn helpu nac yn cyrraedd pawb sydd mewn angen, gan gynnwys y rheini mewn tlodi tanwydd nad ydynt yn cael budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd, ac roeddent yn dweud ei bod yn hanfodol fod cynifer o aelwydydd cymwys â phosibl yn ei gael. Felly, maent wedi gofyn i mi ofyn: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dyddiad cau estynedig i hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael ymhellach? Faint o'r oddeutu 350,000 o aelwydydd cymwys sydd wedi gwneud cais llwyddiannus hyd yma? Pa gyfran yw hon o'r holl aelwydydd yr amcangyfrifir eu bod yn gymwys? Sut y mae’r nifer sy’n manteisio ar y cynllun yn cymharu ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, lle rydym am osgoi unrhyw loteri cod post? Ac o'r rhai sydd wedi gwneud cais llwyddiannus hyd yn hyn, faint a pha gyfran a oedd yn cael gostyngiad y dreth gyngor, a olygai fod y cyngor wedi cysylltu â hwy'n uniongyrchol?
Mae Age Cymru hefyd wedi galw am ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynllun i gynnwys pobl hŷn sy’n cael credyd pensiwn, lle mae biliau cartref sylfaenol yn prysur ddod yn anfforddiadwy i lawer o bensiynwyr sy’n byw ar incwm sefydlog isel, ac anfonodd etholwr e-bost ataf ddoe yn gofyn imi atgoffa Llywodraeth Cymru am y problemau a wynebir yn arbennig gan y rheini â chyflyrau fel syndrom ôl-polio. Sut, felly, y bydd y Gweinidog yn ymateb i’r cwestiynau dilys hyn gan gyrff perthnasol? Unwaith eto, pwysleisiaf fy mod yn gofyn hyn fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, nid i sgorio unrhyw bwyntiau gwleidyddol.
Wel, diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Rydym yng nghanol trychineb costau byw, fel y mae Sefydliad Resolution yn ei alw, a lansiwyd y cynllun cymorth tanwydd gaeaf hwn fel rhan o’r gronfa cymorth i aelwydydd i dargedu teuluoedd a’r rhai mwyaf agored i niwed mewn perthynas â'r cwestiynau sydd bellach yn wynebu llawer o deuluoedd ynghylch gwresogi neu fwyta. Mae hynny'n frawychus, onid yw, yn y wlad gyfoethog hon rydym yn byw ynddi. Felly, bydd hyn yn mynd beth o'r ffordd tuag at gefnogi aelwydydd incwm isel gyda'u biliau ynni cynyddol a chost gynyddol hanfodion bob dydd.
I ateb eich cwestiynau, erbyn diwedd mis Ionawr, mae data gan 22 o awdurdodau lleol yn dangos bod dros 146,000 o geisiadau wedi dod i law, fod 105,785 o geisiadau wedi’u talu, ac mae awdurdodau lleol yn gweithio’n galed nid yn unig i’w hyrwyddo; maent wedi cysylltu â phawb y maent yn eu hystyried yn gymwys. Bernir bod 350,000 yn gymwys yng Nghymru, felly mae angen inni wneud popeth a allwn, ac mae’r grŵp trawsbleidiol yn chwarae ei ran gyda’i bartneriaid i hyrwyddo hyn.
Fel y dywedais, mae a wnelo hyn â chefnogi aelwydydd o oedran gweithio, a dywedaf hefyd fod hyn yn ymwneud nid yn unig â’r costau tanwydd a’r costau bwyd cynyddol, ond y rhai a ddioddefodd sioc incwm pan ddaeth Llywodraeth y DU â'r codiad o £20 yr wythnos i'w credyd cynhwysol i ben, ac rydym am iddo gynorthwyo’r aelwydydd sy’n cael un o’r budd-daliadau yn lle enillion ar sail prawf modd y gwrthododd y DU eu cynyddu £20 yr wythnos.
Ond rwyf am ddweud, ar y sylwadau, ac rwyf wedi gweld hynny'n arbennig gan Age Cymru, rwy'n gobeithio y byddwch chi fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, Mark Isherwood, a llefarydd y Ceidwadwyr, yn annog Llywodraeth y DU i wneud yr hyn y dylent fod yn ei wneud a chynyddu eu taliad tanwydd gaeaf a hefyd yn ymestyn cymhwysedd ar gyfer y gostyngiad Cartrefi Clyd. Nid ydym wedi clywed unrhyw beth gan Lywodraeth y DU. Rheini yw'r taliadau lle gall pobl hŷn cymwys gael cymorth gyda’u biliau ynni a hefyd—ac rwyf am orffen gyda’r pwynt hwn, i fod yn gryno, Lywydd—rydym yn cynnal ymgyrch wrth gwrs i sicrhau bod pobl hŷn a phensiynwyr yn manteisio ar yr hyn y mae hawl ganddynt i'w gael ac sydd ei angen arnynt, ac mae hynny’n cynnwys credyd pensiwn. Fe wyddoch fod llai o bobl nag y dylent yn hawlio credyd pensiwn. Mewn gwirionedd, nid yw dau o bob pump o bobl sy’n gymwys i gael credyd pensiwn yng Nghymru yn ei hawlio, a gallai’r rheini sy’n cael credyd pensiwn gael mynediad at y gostyngiad Cartrefi Clyd yn sgil hynny.
Felly, rydym yn chwarae ein rhan. Nid wyf am ddweud mwy am hyn ar hyn o bryd, ond rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod y gronfa gynghori sengl yn gweithio ledled Cymru gyda grŵp sy’n ceisio cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau lles, gan gynnwys cynrychiolwyr pobl hŷn. Ac yn olaf, wrth gwrs, gall pobl hŷn wneud cais am ein cronfa cymorth dewisol, sydd wedi’i hymestyn hefyd. Ond os gwelwch yn dda, a gawn ni alw ar Lywodraeth y DU i gynyddu eu taliad tanwydd gaeaf a’u gostyngiad Cartrefi Clyd, a hefyd, wrth inni wynebu’r cynnydd hwn yn y cap tanwydd, a allwn ni gael cymorth tariff cymdeithasol ar gyfer defnyddwyr ynni?
Mae miloedd o gartrefi yng Nghymru, nifer sy'n cyfateb i Abertawe gyfan, eisoes yn cael trafferth i dalu am eitemau bob dydd. Fel rŷn ni wedi clywed, mae'r costau ynni cynyddol yna a'r codiadau treth yn agosáu, ac felly bydd y costau ychwanegol o dros £1,000 yn gam yn rhy bell i'r rhai sydd eisoes dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Rwy'n croesawu mesurau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw a thlodi, gan gynnwys y taliad ychwanegol yma a gyhoeddwyd yr wythnos hon, ond, er hyn, mae problemau yn bodoli o ran delifro mesurau fel hyn o ganlyniad i'r ffaith taw awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am eu gweithredu, ac mae yna dystiolaeth bod hyn yn creu anghysondeb o ran y cymorth sy'n cyrraedd teuluoedd ar lawr gwlad mewn gwahanol rannau o Gymru. Beth mae'r Llywodraeth, felly, yn ei wneud i sicrhau bod y lefel hawlio o ran taliadau fel hyn yn gyson drwy Gymru, yn ogystal â hyrwyddo eu bod nhw ar gael? Ac wrth inni wynebu'r fath argyfwng, a fydd yn un estynedig, gyda dim ond ychydig fisoedd cyn codi'r cap ar brisiau ynni, a wnaiff y Llywodraeth gyflwyno cynllun gweithredu argyfwng costau byw fel mater o frys? Rwy'n cytuno â sylwadau'r Gweinidog o ran y grym sydd yn nwylo'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan a'r diffyg gweithredu, ond a yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod hi lan i ni yng Nghymru i amddiffyn ein pobl, felly, rhag y storm economaidd hon?
Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch am dynnu sylw at y pwysau sydd ar eich etholwyr, y pwysau costau byw sydd mor real ac sydd mor fyw ac y clywir amdanynt bob dydd mewn adroddiadau gan Sefydliad Resolution, Sefydliad Bevan. Mae awdurdodau lleol yn chwarae eu rhan. Credaf fod y nifer sydd wedi manteisio, o ystyried yr amser rydym wedi'i gael—. Rydym wedi ymestyn yr amser ar gyfer hyn, wedi ymestyn y dyddiad cau, fel y dywedodd Mark Isherwood, i ddiwedd mis Chwefror. Yr awdurdodau lleol a fydd yn gwneud y taliadau. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi cael cefnogaeth gref iawn gan etholwyr, gydag enghreifftiau go iawn o beth y mae hyn wedi'i olygu iddynt hwy. Ac rwyf am ddyfynnu un o ogledd Cymru, a ddywedodd yr hoffai imi rannu hyn â'r Senedd:
'Wrth gwrs, fe wnaeth y £100 cyntaf leddfu fy nhlodi caled ar gyfer y mis hwn, a bydd hefyd yn fy nghadw'n gynnes am fis ac ychydig, o leiaf. Bydd £100 arall yn golygu y gallaf gadw'n gynnes ym mis Mawrth, mis Ebrill a hyd at ganol mis Mai, ac erbyn hynny, bydd fy ngwres i ffwrdd tan ddechrau mis Hydref o leiaf, ac wedi hynny, gobeithio.'
Dywedai fod yn rhaid iddo fwyta’r bwyd rhataf, o’r ansawdd gwaethaf. Y £200 hwn yw’r hyn rydym yn ei wneud fel Llywodraeth Cymru i estyn allan at ein hetholwyr.
Nawr, fel y gwyddoch, yn dilyn y ddadl a arweiniwyd gennych yn ddiweddar iawn, rydym yn trefnu uwchgynhadledd bord gron ar 17 Chwefror, ar draws y Llywodraeth, gyda’n holl bartneriaid, a bydd yn cynnwys llawer o’r partneriaid yn y grŵp trawsbleidiol, ar fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. Ond dywedaf eto, nid yn unig o ran yr hawliau sydd gennym a'n cronfa cymorth dewisol, a gaf fi apelio hefyd at bobl nad ydynt ar y grid mewn perthynas ag olew—a gwn fod hyn yn effeithio ar lawer o Aelodau'r Senedd yma—fod y gronfa cymorth dewisol ar gael i helpu gyda’r costau hynny o ran mynediad at olew fel ffynhonnell ynni allweddol? Dyma ble mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hyn. Ond nid oes a wnelo hyn â chymorth gennym ni yn unig, mae'n rhaid cael cymorth Llywodraeth y DU hefyd, sy'n cadw'n ddistaw ar hyn—yn gwbl ddistaw—pan ydym yn gweld y costau ynni hyn yn codi. Ond dylid dweud hefyd fod hwn yn gyfle gwirioneddol i Lywodraeth y DU ddangos eu bod yn mynd i'r afael â’r argyfwng costau byw, sy’n cael effaith mor andwyol a chreulon ar bobl ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr iawn. Rwy’n gwerthfawrogi’r holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio sicrhau bod pawb yn manteisio ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Ond fel y dywedoch chi yn gynharach, yn bennaf, Llywodraeth y DU sydd â’r ysgogiadau. Ac rwy’n sylweddoli bod yn rhaid ei bod yn anodd iawn cael unrhyw un i ateb y ffôn pan fo Llywodraeth y DU ynghanol argyfwng arweinyddiaeth, ond tybed a allech godi’r pwynt gyda hwy fod holl wledydd eraill Ewrop yn rhoi camau ar waith i ddefnyddio trethi Llywodraeth i leihau cost biliau ynni. Felly, mae Cabinet yr Iseldiroedd wedi torri trethi ynni ac wedi darparu mwy o arian ar gyfer inswleiddio; yn Ffrainc, maent yn rhoi pwysau ar EDF, sy'n eiddo i'r wladwriaeth, i leihau'r gost i gartrefi Ffrainc; yn Sbaen, mae treth ffawdelw ar gyfleustodau; yn yr Almaen, maent yn torri'r cynllun ynni gwyrdd; yn yr Eidal, yr un peth; ac yn Sweden, swm cyfwerth â bron i £500 miliwn, yn ogystal â Norwy. Felly, a oes unrhyw bosibilrwydd y gallwn gael unrhyw beth gan Lywodraeth y DU ynglŷn â newid y ffordd rydym yn casglu'r trethi gwyrdd fel eu bod yn rhan o brif ffrwd casgliadau treth incwm, neu'n wir, treth ffawdelw—y naill neu'r llall—fel nad yw'n gorfod cael ei ysgwyddo gan y rheini yr effeithir arnynt waethaf gan y cynnydd enfawr hwn ym mhrisiau ynni?
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Fe fyddwch yn ymwybodol, o’r gwaith rydych yn ei wneud fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fod y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, a minnau wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ymhell yn ôl ar ddechrau mis Ionawr. Rhannais y llythyr hwnnw gydag Aelodau’r Senedd. Felly, mae llawer o alwadau, ac rwyf wedi sôn am sawl un ohonynt eisoes, fel y taliadau tanwydd gaeaf, y cynllun gostyngiadau Cartrefi Clyd, ond edrych hefyd ar y ffyrdd y gallent—. A dweud y dylent symud y costau gwyrdd a pholisi cymdeithasol hynny allan o filiau cartrefi pobl ac i drethiant cyffredinol. Mae'n wych eich bod wedi cyfeirio at yr holl wledydd eraill sy'n rhoi camau ar waith i gynorthwyo pobl mewn tlodi tanwydd ac sy'n wynebu argyfwng dyfnach, ond hefyd eu bod yn cydnabod bod yn rhaid iddynt ariannu hyn drwy drethiant cyffredinol. Ac wrth gwrs, ar dreth ffawdelw, mae galwadau am seibiant treth ar werth, ac ati. Ond rydym wedi gwneud y pwyntiau hyn.
Rydym wedi codi'r pwyntiau hyn gyda Llywodraeth y DU ac mae hwn yn gyfle yn awr inni uno, gobeithio, yn y Senedd hon i sicrhau eu bod yn chwarae eu rhan. Ganddynt hwy y mae'r ysgogiadau. Rydych wedi clywed National Energy Action. Maent yn nodi'n glir mai dyma ble rydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU ymateb a sicrhau eu bod yn cynorthwyo pobl sy’n mynd yn ddyfnach ac yn ddyfnach i dlodi oherwydd costau byw, a'u bod yn gwneud hynny yn y ffordd gywir hefyd o ran tariff ynni cymdeithasol.
Diolch i'r Gweinidog.