5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gordewdra

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:46, 2 Chwefror 2022

Does yna ddim byd yn fwy gwerthfawr na'n hiechyd ein hunain, a rywsut mae'n rhaid gwneud yn siŵr ein bod ni yn buddsoddi yn yr holl bethau hynny sy'n mynd i roi y dechrau gorau i bobl mewn bywyd. A dyna pam mae'n gwelliant ni'n sôn am adnoddau hyrwyddo gweithgarwch corfforol, gwella addysg iechyd, mwy o amser i addysg gorfforol. Dwi'n croesawu’r peilotau sy'n digwydd ar y diwrnod ysgol ar hyn o bryd er mwyn creu mwy o amser i addysg gorfforol. Rydym ni yn sôn yma eto am y syniad o gael rhyw fath o lefi ar y bwydydd lleiaf iach. Ym Mecsico, dwi'n meddwl, roedd yna 10 y cant o ostyngiad yn faint oedd yn bwyta'r bwydydd lleiaf iach ar ôl i dreth gael ei chyflwyno. Gadewch i ni edrych ar yr holl bethau yma yn eu cyfanrwydd. Rydym ni wedi defnyddio'r gair 'pandemig' lot mewn cyd-destun arall yn y ddwy flynedd ddiwethaf; mae hwn yn bandemig gwirioneddol ac mae'n rhaid edrych o dan bob carreg i chwilio am yr atebion iddo fo.