Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 2 Chwefror 2022.
Un ffactor go fawr sy'n peri pryder ac sy'n cyfrannu at y bwlch cyrhaeddiad yw iechyd meddwl a llesiant ein plant, a'r llynedd canfu adroddiad gan Brifysgol Caerdydd fod tua 19 y cant o bobl ifanc yng Nghymru wedi nodi lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl gwael cyn y pandemig COVID-19. Mae ysgolion wedi dweud yn glir nad oes ganddynt ddigon o adnoddau i ymdopi â'r galw am gymorth angenrheidiol, er eu bod yn mynd y tu hwnt i'r galw i weithredu dulliau ysgol gyfan yn eu darpariaeth. Cymeradwyodd adroddiad 'Dim Drws Anghywir' y comisiynydd plant system gydgysylltiedig lle gall gweithwyr proffesiynol ddod at ei gilydd i ddarganfod pa gymorth y gallant ei gynnig, gan ganiatáu i ofal hyblyg gael ei ddarparu i ddiwallu anghenion. Mae hyn yn arbennig o bwysig o gofio bod ffigurau ar gyfer Gorffennaf 2021 wedi dangos bod 432 o gleifion allan o gyfanswm o 720 yn aros pedair wythnos neu fwy am eu hapwyntiad cyntaf ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a'r glasoed.
Weinidog, yng ngoleuni'r pwysau a amlygir eto gan y pandemig, ac i'r plant sydd wedi cael profiadau niweidiol, pa gamau y gallwch ymrwymo i'w cymryd i sicrhau bod gennym ddull 'dim drws anghywir' â digon o adnoddau, gyda chysylltiad rhwng yr holl wasanaethau fel ffordd o leihau cam-drin plant a phrofiadau niweidiol 70 y cant erbyn 2030? Dywed Barnardo's mai'r ffactor canolog sy'n effeithio ar iechyd meddwl yng ngogledd Cymru oedd amgylchedd byw llawn straen, gyda chynnydd yn nifer y plant sy'n troi at ddefnyddio canabis yn lle mynd i'r afael â'u trawma. Mae gennyf nifer enfawr o blant ifanc mewn teuluoedd sydd wedi bod yn byw mewn llety dros dro fel y'i gelwir am gyhyd â 18 mis, ac mae hynny hefyd yn achosi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Yng Nghonwy, rwy'n falch o ddweud bod Barnardo's yn cael eu hariannu i gefnogi teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau ac alcohol fel ffordd o fynd i'r afael â ffactorau sy'n cyfrannu, ond ymdrin â'r symptomau y mae hynny'n ei wneud, nid yr achos. Dywed yr elusen ei bod yn anodd parhau â'u darpariaeth arbenigol pan nad yw staff yn gwybod a fydd eu swydd yn cael ei hariannu o flwyddyn i flwyddyn. Felly, unwaith eto, a gawn ni ryw ymrwymiad ynglŷn â sut y bwriadwch ariannu hyn, a rhoi rhywfaint o obaith i'r sefydliadau hyn? A wnewch chi gydweithio â'ch cyd-Weinidog i adolygu pa gamau y gellir eu cymryd i ddarparu ymrwymiad ariannu mwy hirdymor i'r rhai sy'n cynorthwyo yn y maes hwn?
Cyn y pandemig, Cymru oedd â'r gyfradd uchaf o ordewdra ymhlith plant, gyda bron i 27 y cant o blant pedair i bump oed dros bwysau neu'n ordew. Pan oeddwn ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, roeddwn yn rhan o'r ymchwiliad, ac roedd rhai o'r ystadegau a welsom yn frawychus. Weinidog, rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heddiw a rhoi mwy o ffocws i atal cam-drin plant. Gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn profi unrhyw driniaeth niweidiol. Diolch.