Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 2 Chwefror 2022.
Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw, ac rwy'n ddiolchgar i sefydliadau fel WAVE Trust sy'n hyrwyddo ac yn dylanwadu'n gyson ar bolisïau blaengar fel yr ymgyrch 70/30. Neges sylfaenol yr ymddiriedolaeth yw y gellir atal y rhan fwyaf o gamdriniaeth a thrais teuluol drwy raglenni hysbys, hyfyw yn economaidd, i dorri cylchoedd teuluol niweidiol. Mae hefyd yn dweud bod ymchwil helaeth yn tynnu sylw at natur allweddol profiad rhwng beichiogi a thair oed—mewn geiriau eraill, pwysigrwydd gwasanaethau ymyrraeth blynyddoedd cynnar.
Ond rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nhwyllo i amau fy mhwyll fy hun gan bregethau'r Ceidwadwyr ar hyn, plaid sydd, ers 2010, wedi torri, cyrydu a diberfeddu cymaint o'r gwasanaethau hyn, yn ogystal â mwy na 1,000 o ganolfannau Cychwyn Cadarn yn Lloegr. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraethau Llafur Cymru wedi ehangu cymorth y blynyddoedd cynnar, fel Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Rwy'n falch iawn o weld Dechrau'n Deg newydd a gwasanaeth gofal plant yn cael ei adeiladu yn Aberhonddu, ar safle Priordy yr Eglwys yng Nghymru.
Rydym wedi lleddfu'r ergyd ac wedi neilltuo arian lle gallwn, ond mae llawer iawn o deuluoedd Cymru wedi'u llethu gan flynyddoedd o bolisïau treth a budd-daliadau cosbol y Torïaid. Canfu dadansoddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a gynhaliwyd cyn y pandemig, ac rwy'n dyfynnu, 'y bydd effaith gronnol toriadau a pholisïau'r Torïaid wedi gwthio 50,000 yn fwy o blant Cymru i fyw mewn tlodi.' Ddwy flynedd yn ôl hefyd, daeth adolygiad Marmot, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Tegwch Iechyd, i'r casgliad hwn:
'Bydd cyni'n bwrw cysgod hir dros fywydau'r plant a aned ac a fagwyd o dan ei effeithiau.'